Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 15 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar ddiwrnod pan ydym yn aros am ganlyniadau pleidlais Tata Steel mewn perthynas â’r diwydiant dur a dyfodol hynny, mae’n bwysig ein bod yn egluro’r sefyllfa o ran ardrethi busnes gyda dur. Soniwyd droeon yn y Siambr hon am y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi. A ydych wedi cael trafodaethau pellach gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU neu swyddogion yr UE mewn perthynas â’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i leihau’r ardrethi busnes? Oherwydd mae honno’n elfen bwysig er mwyn sicrhau chwarae teg ar draws Ewrop.