Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 15 Chwefror 2017.
Wel, diolch i David Rees am hynny. Prin yw’r cwestiynau, Lywydd, sy’n pwyntio at sector lle y mae gwerthoedd ardrethol wedi lleihau’n sylweddol o ganlyniad i ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ddiweddar. Yma yng Nghymru, bydd y gostyngiad yn y biliau a delir gan y diwydiant dur yn effeithio’n sylweddol ar y diwydiant hwnnw. Yn wahanol i Loegr, byddwn yn caniatáu i’r diwydiant gael y budd llawn o’r gostyngiadau hynny am nad ydym yn ariannu’r cymorth a roddwn i bobl y mae eu biliau’n codi drwy fynd ag arian oddi wrth gwmnïau y mae eu biliau’n gostwng. Rwy’n gwybod bod llawer o sylwebaeth wedi bod yn Lloegr yn galw am drin y diwydiant dur yn Lloegr yr un mor fanteisiol â’r diwydiant dur yng Nghymru. Felly, diolch i’r Aelod am y cwestiwn am ei fod yn tynnu sylw at ran arbennig o bwysig o’r ffordd yr ydym yn cyflawni’r pethau hyn yma yng Nghymru.