Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Chwefror 2017.
Weinidog, mae masnachwyr ym marchnad Castell-nedd wedi cael cynnig llai o ardrethi busnes ers peth amser, gyda rhai yn elwa o dalu dim o gwbl. Fodd bynnag, yn ddiweddar, bûm yn siarad gyda rhai masnachwyr yn y farchnad a ddywedodd wrthyf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi codi eu rhenti i’r pwynt lle y bydd rhai yn cael eu gorfodi i gau neu symud eu busnes i fannau eraill. A fuasech yn cytuno bod cynnig cymhelliad economaidd ar ffurf gostyngiad mewn ardrethi busnes, a chodi rhenti wedyn ar yr un pryd, yn tanseilio holl bwynt y gostyngiad yn yr ardrethi busnes? Ac a wnewch chi ymuno â mi o bosibl i ysgrifennu at gyngor Castell-nedd Port Talbot i fynegi’r pryderon hyn? Mae’n fater real iawn ar hyn o bryd, lle y mae llawer o’r masnachwyr yn dweud na allant weld dyfodol yn y farchnad os na fydd pethau’n newid.