Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, cysylltodd nifer o etholwyr â mi ar ôl cael eu heffeithio gan yr adolygiad cyflogau a gynhelir gan awdurdodau lleol. Mae pobl sydd wedi bod yn gweithio mewn rolau sgil uchel ers degawdau wedi darganfod yn sydyn fod eu swyddi wedi cael eu hailddosbarthu fel rhai heb sgiliau, ac o ganlyniad, mae fy etholwyr wedi gweld toriad yn eu cyflogau, weithiau cymaint â 25 y cant. Yr ofn ymhlith llawer o weithwyr llywodraeth leol yw eu bod yn cael eu targedu mewn ymgais i dorri costau. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae’n deg pan fydd swyddogion ar lefel uchel mewn llywodraeth leol yn ennill mwy na’r Prif Weinidog, ac eto bod gweithwyr llywodraeth leol ar gyflog is yn gweld toriad yn eu cyflogau? Pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau nad yw hyn yn parhau, ac i unioni’r materion y mae etholwyr wedi bod yn cwyno wrthyf yn eu cylch? Diolch.