Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 15 Chwefror 2017.
Wel, Lywydd, buaswn yn disgwyl i unrhyw gamau gweithredu gan awdurdodau lleol wrth adolygu swyddi a wneir gan staff gael eu cynnal mewn ffordd sy’n gyson â’r cyngor a ddarperir gan y Llywodraeth hon a’r cytundebau rhwng yr awdurdodau lleol hynny a’u hundebau llafur. Un o’r ffyrdd y byddwn yn helpu i wneud yn siŵr fod hynny’n digwydd yn y dyfodol yw drwy’r Bil Undebau Llafur (Cymru) yr ydym yn ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn i wneud yn siŵr nad yw hawliau undebau llafur yn cael eu herydu a’u bod yn gallu parhau i ddiogelu eu haelodau mewn amgylchiadau tebyg i’r rhai y mae’r Aelod wedi eu disgrifio. Edrychaf ymlaen at gefnogaeth ei phlaid wrth i’r Bil hwnnw wneud ei ffordd drwy’r Cynulliad Cenedlaethol.