Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 15 Chwefror 2017.
Rwy’n siŵr y byddech chi’n cytuno, Gwnsler Cyffredinol, nad oes diben gwneud y gwaith o wella a ‘codify-o’ yn y ffordd rydych chi wedi amlinellu oni bai ei fod yn cael ei wneud yng ngolau dydd a bod mynediad llawn at y gyfraith gan y cyhoedd yn arbennig, a gan y bobl sy’n cael eu heffeithio gan y gyfraith. A ydych chi, felly, erbyn hyn, yn gwbl hyderus bod y gwaith o roi cyfraith Cymru ar-lein yn cael y flaenoriaeth briodol gan yr archifau cenedlaethol?