<p>Rhaglen i Godeiddio’r Gyfraith</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:40, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

O ran holl fater sicrhau bod y gyfraith ar gael ar-lein ac yn hygyrch yn y ffordd honno, rwy’n credu bod cryn dipyn o waith sydd angen ei wneud o hyd. Yn amlwg, gwnaed camau sylweddol gan fy rhagflaenydd ar gael y system ar ei thraed, ond rwy’n meddwl bod dechrau’r broses godeiddio ynddi ei hun yn creu galwadau ychwanegol a disgwyliadau ychwanegol. Rwy’n meddwl bod cyfrifoldeb arnom hefyd i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar dechnoleg wrth sicrhau bod y gyfraith ar gael i unigolion.