2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2017.
5. Pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran rhaglen Llywodraeth Cymru i godeiddio’r gyfraith? OAQ(5)0028(CG)
Er ei bod yn ddyddiau cynnar, rydym wedi dechrau cwmpasu prosiectau cyfuno posibl, yn ogystal â dechrau gwaith angenrheidiol i benderfynu ar brosesau effeithiol ar gyfer codeiddio a chyhoeddi deddfau Cymru yn well. Ac fel rhan o’r broses hon rydym yn parhau i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith ar gynlluniau’r prosiect cyfuno a chodeiddio.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Rwy’n siŵr y byddwch chi a phawb arall yn cydnabod pwysigrwydd codeiddio a’r effaith a gaiff. A wnewch chi amlinellu’r manteision economaidd a chymdeithasol y bydd gwneud y gwaith hwn yn ei sicrhau mewn gwirionedd?
Mae manteision sylweddol iawn i’r rhaglen gyfundrefnu, ac nid wyf yn petruso, fel y dywedais yn y Siambr hon, rhag nodi’r ffaith na allai ddod ar amser anoddach—ar adeg pan fo cymaint o alw am adnoddau, adnoddau cyfreithiol, mewn perthynas â materion Brexit, materion yn ymwneud â’r Bil diddymu mawr a’r holl ofynion a geir yn hynny o beth, ac ar adeg pan fo adnoddau ariannol yn gyfyngedig iawn. Ar ôl dweud hynny, mae’n bwysig iawn, rwy’n meddwl, i’r gymuned fusnes, er enghraifft, fod cyfraith gynllunio wedi’i chodeiddio, ac wrth gwrs, mae gwaith sylweddol eisoes ar y gweill gyda Chomisiwn y Gyfraith yn hynny o beth.
Rwy’n credu hefyd y bydd angen i ni edrych ar ein gweithdrefnau ein hunain mewn perthynas â chodeiddio, a deddfwriaeth o bosibl, gan nad yw cychwyn ar y llwybr codeiddio yn rhywbeth y gallwch gamu i mewn ac allan ohono. Rhaid iddo fod yn waith cyson, gan mai’r hyn a wnawn yw symleiddio a chodeiddio cyfraith Cymru, a chyfraith Cymru a fydd yn tyfu ac yn arwain yn ddi-os at fater awdurdodaeth. Rwy’n ei hystyried hi’n bwysig iawn nid yn unig ein bod yn symleiddio a’r manteision a geir mewn perthynas â busnes i’r diben hwnnw, ond ein bod yn edrych yn agos iawn hefyd ar fynediad at y gyfraith, sef bod pobl yn gallu dod i gysylltiad â’r gyfraith, fod pobl yn gallu deall y gyfraith honno, a hyd y bo modd, fod cyngor a chynrychiolaeth ar gael i bobl allu manteisio ar eu hawliau yn y gyfraith mewn gwirionedd. Mae’r rhain yn feysydd anodd tu hwnt. Nid yw rhai o’r meysydd wedi’u datganoli, ond mae hon yn ffordd newydd i ni fynd ar hyd-ddi wrth i ni greu fframwaith deddfwriaethol newydd. Mae gennyf nifer o gyfarfodydd wedi’u cynllunio mewn perthynas â’r broses hon, ac edrychaf ymlaen at adrodd yn llawer mwy manwl ar y cynnydd a wnawn wrth iddi ddatblygu.
Rwy’n siŵr y byddech chi’n cytuno, Gwnsler Cyffredinol, nad oes diben gwneud y gwaith o wella a ‘codify-o’ yn y ffordd rydych chi wedi amlinellu oni bai ei fod yn cael ei wneud yng ngolau dydd a bod mynediad llawn at y gyfraith gan y cyhoedd yn arbennig, a gan y bobl sy’n cael eu heffeithio gan y gyfraith. A ydych chi, felly, erbyn hyn, yn gwbl hyderus bod y gwaith o roi cyfraith Cymru ar-lein yn cael y flaenoriaeth briodol gan yr archifau cenedlaethol?
O ran holl fater sicrhau bod y gyfraith ar gael ar-lein ac yn hygyrch yn y ffordd honno, rwy’n credu bod cryn dipyn o waith sydd angen ei wneud o hyd. Yn amlwg, gwnaed camau sylweddol gan fy rhagflaenydd ar gael y system ar ei thraed, ond rwy’n meddwl bod dechrau’r broses godeiddio ynddi ei hun yn creu galwadau ychwanegol a disgwyliadau ychwanegol. Rwy’n meddwl bod cyfrifoldeb arnom hefyd i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar dechnoleg wrth sicrhau bod y gyfraith ar gael i unigolion.
Mae mater cyfuno yn rhywbeth a aeth â sylw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol rhagflaenol. Mae codeiddio wedi mynd â llawer o’n sylw bellach. Yn wir, mae llawer o fanteision i Gymru yn sgil symleiddio’r ddeddfwriaeth a’i gwneud yn dryloyw, ond mae’n dasg Sisyffaidd braidd mewn sawl ffordd. Yn wir, os ceisiwch ei wneud mewn un darn, gallai fod yn llafurus iawn, yn enwedig gan fod gennym dasgau pwysig eraill o’n blaenau, gan gynnwys trosi canlyniadau pontio Brexit wrth inni symud ymlaen. Felly, a gaf fi ofyn am syniadau’r Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â sut y gallem fynd i’r afael â hyn? Rwy’n credu ei fod wedi disgrifio o’r blaen y syniad o dreialu rhyw elfen o hyn, ond byddwn yn sicr yn dweud y byddai’n ymddangos yn ddymunol i sefydliad democrataidd ifanc fel ein hun ni i arwain y ffordd yn hyn, ond i wneud hynny mewn ffordd na fyddai’n ein hamddifadu’n gyfan gwbl drwy ddefnyddio’r adnoddau i gyd ar yr ymarfer codeiddio hwn, heb allu bwrw ymlaen ag unrhyw beth arall.
Mae’r Aelod yn llygad ei le na ddylai ein proses o godeiddio a chyfuno—y cyfuno nad yw’n diwygio a fuasai’n cyd-fynd â hynny—amharu ar y gwaith y mae’r Cynulliad hwn yn ei gyflawni a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth, ac yn wir, y rhaglenni deddfwriaethol a allai ddeillio oddi wrth Aelodau unigol ac yn y blaen. Hefyd, ni ddylai dynnu ein sylw oddi ar y dasg bwysig iawn o sicrhau ein bod yn ymdopi ag unrhyw ddeddfwriaeth a materion deddfwriaethol a fo’n ymwneud â Brexit a’r meysydd deddfwriaethol posibl a fydd yn angenrheidiol yn hynny o beth. Ond fel rwy’n dweud, po hiraf y byddwch yn gadael codeiddio, y mwyaf cymhleth ac anodd y bydd mewn gwirionedd, a dyna pam rwy’n awyddus, hyd yn oed os ydym yn ei wneud mewn ffordd gyfyngedig, ein bod yn cychwyn ar y broses a’n bod yn ymrwymo i broses barhaus. Rwy’n aml wedi ei ddisgrifio’n debyg i—rwy’n gwneud camgymeriadau gyda fy nghyfatebiaethau y dyddiau hyn—ond mae hyn yn debyg i’r metro yn yr ystyr y bydd yn cymryd 10 i 15 mlynedd i’w gwblhau, ac nid wyf yn siŵr a gaf fi byth deithio arno. Ond rwy’n siŵr y bydd yr un peth yn digwydd gyda chodeiddio: efallai na chaf fi byth weld y cynnyrch gorffenedig, ond rwy’n edrych ymlaen at y daith.