Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Chwefror 2017.
A allaf i longyfarch Bethan Jenkins, yn y lle cyntaf, ar ei chadeirio cadarn yn y pwyllgor ac arweinyddiaeth glir ynglŷn â’r ffordd bwrpasol ymlaen? Rwy’n cofio, achos rwy’n hen yn awr, mewn Cynulliadau o’r blaen, trio mynd i’r afael efo’r holl fusnes yma o sôn a thrafod am ddarlledu a phapurau newydd ac ati, a sut maen nhw’n portreadu Cymru yn gyffredinol, ac roedd hi’n anodd iawn cael dadl neu drafodaeth o gwbl ar un adeg, achos nid oedd y mater wedi cael ei ddatganoli. Rwy’n llongyfarch Bethan, felly, sydd wedi llwyddo i yrru’r cwch i’r dŵr, megis, ac rydym yn gallu cael trafodaeth eang. Rydym wedi llwyddo i gael BBC ac ITV a hefyd S4C i ymddangos o flaen ein pwyllgor, ac wedi dod i fyny efo’r adroddiad bendigedig yma—yr un cyntaf yn y maes yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, cefndir hyn oll ydy’r portread gwael, yn gyffredinol, o Gymru o fewn Cymru ac, wrth gwrs, o Gymru drwyddi draw yn y Deyrnas Unedig.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ydy: a oes bwriad i ni fel pwyllgor i fod yn craffu yn gyson ar weithgareddau’r BBC ac ITV? Rydym ni’n gwybod bod Tony Hall yn dod yn ôl nawr, ond a ydym ni’n gweld bod rhyw fath o raglen gynhwysfawr sy’n mynd i olygu bod BBC, ITV ac S4C yn mynd i ymddangos yn rheolaidd o flaen ein pwyllgor yn y lle cyntaf?
Hefyd, mae’r cwestiwn arall sydd gyda fi ynglŷn â dyfodol S4C. Mae yna, wrth gwrs, ymchwiliad yn mynd ymlaen ar raddfeydd eraill, ond yn benodol, gan fod rhai ohonom ni yn awyddus iawn i weld, efallai yn y pen draw, ddatganoli cyllid a phwerau dros S4C i’r fan hon yn gyfan gwbl, pa waith sy’n mynd i gymryd rhan fel rhan o unrhyw ymchwiliad i sut mae S4C yn gweithio i’r ffaith bod yna ddyhead o fewn Cymru ac ymhlith pobl Cymru i weld S4C yn cael ei datganoli i’r Cynulliad yma? Diolch yn fawr.