5. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei Waith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:48, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am gyflwyno’r adroddiad hwn, ac i’r pwyllgor am y gwaith a wnaethant ar ei gyflawni? Fel y dywedodd Rhianon Passmore, rwy’n meddwl y dylem atgoffa ein hunain ar y cychwyn, mae’n debyg, fod y Ddeddf hon yn ddeddfwriaeth arloesol sy’n symud i dir newydd lle nad oes unrhyw ddeddfwrfa arall yn y DU wedi bod. Felly roedd hi bob amser yn debygol y byddai profiadau cynnar yn amlygu lle y gellid gwneud gwelliannau, ac mae’r adroddiad hwn, rwy’n meddwl, yn cynnig argymhellion i alluogi’r Llywodraeth i wneud hynny.

Er bod eraill hefyd wedi cyffwrdd ar yr argymhellion addysg, dyna’r maes yr wyf am ganolbwyntio arno. Hoffwn siarad yn benodol hefyd am gam-drin a gyflawnir drwy ymddygiad gorthrechol, sy’n aml yn cael llai o sylw na cham-drin corfforol, er nad yw’n llai niweidiol. Mae’n digwydd yn ddieithriad dros gyfnod estynedig o amser ac yn cynnwys patrwm ymddygiad parhaus lle y bydd un partner yn gyfyngol ac yn creu ymdeimlad bron yn barhaol o ofn. Dywedir wrth y sawl sy’n dioddef beth y caiff ei wneud, pwy y caiff eu gweld, faint y caiff ei wario, beth y dylai ei fwyta a sut y dylai wisgo. Yn wir, bydd y sawl sy’n cam-drin yn rheoli pob agwedd ar fywyd y dioddefwr, gan ladd eu hyder, gwneud iddynt deimlo’n ddiwerth a gwneud iddynt gredu na allent weithredu heb i’r sawl sy’n cam-drin reoli eu bywyd.

Weithiau, efallai na fydd yr effaith ar ddioddefwyr yn amlwg ar unwaith, yn enwedig gan nad oes unrhyw greithiau corfforol, ond heb os, dros gyfnod o amser, bydd yr effaith ar ddioddefwyr mor ddinistriol ag unrhyw fath arall ar gam-drin.

Felly, mae’n bwysig fod pobl ifanc yn cael eu haddysgu ar y cyfle cyntaf ynglŷn â materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, trais rhywiol ac ymddygiad gorthrechol. Felly, rwy’n falch fod adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnwys nifer o argymhellion yn ymwneud ag addysg a bod gwefan Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar rôl ein system addysg yn addysgu pobl ifanc am berthynas iach, rhywbeth y cyfeiriodd nifer o’r Aelodau ato heddiw.

Felly, rwy’n sylwi’n arbennig ar ymateb Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad 9 yn yr adroddiad yn rhannol, argymhelliad sy’n galw am ymrwymiad i gynnwys addysgu am berthynas iach yn y cwricwlwm newydd. Efallai fod y derbyniad yn rhannol oherwydd bod cynllun y cwricwlwm yn dal i gael ei ddatblygu, i fod ar gael o 2018 ymlaen. Ond o’m rhan i, buaswn yn cefnogi’n gryf yr argymhelliad hwn. Yn wir, roeddwn yn falch iawn o gyflwyno gwobrau’n ddiweddar i bobl ifanc o ysgolion Merthyr Tudful a sefydliadau ieuenctid a oedd yn gweithio ar brosiectau’n ymwneud â pherthynas iach. Heddiw, fe ddysgais, o ymweliad gan ysgol Pen y Dre ym Merthyr—daethant i’r Cynulliad y bore yma—eu bod yn mynd i barhau i gyflwyno hyn. Ni ddylid tanbrisio’r rôl hanfodol y mae addysg o’r fath i godi ymwybyddiaeth yn ei chwarae yn atal cam-drin yn y dyfodol.

Mae’n ymddangos unwaith eto mai’n rhannol yn unig y derbyniwyd argymhelliad 11 ar gyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar sut y maent yn gweithredu’r Ddeddf, yng nghyd-destun yr adolygiad o’r cwricwlwm. Buaswn yn gobeithio, fodd bynnag, y bydd cydnabyddiaeth i bwysigrwydd cynnwys addysg perthynas iach yn y cwricwlwm newydd yn creu cydnabyddiaeth yn ei sgil o’r angen i fonitro darpariaeth ac effeithiolrwydd addysg o’r fath.

A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 13, sy’n ymestyn addysg perthynas iach ein pobl ifanc i’r rhai sy’n astudio mewn addysg uwch ac addysg bellach? I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n meddwl y dylem fod yn haeddiannol falch o’r ddeddfwriaeth arloesol hon sydd gennym yma yng Nghymru a chydnabod pwysigrwydd addysgu ein pobl ifanc am bob math o gam-drin, gan gynnwys rhai nad ydynt bob amser yn cael eu hadnabod fel ffurfiau ar gam-drin. Gallai mynd i’r afael â hyn gyda phobl ifanc ar oedran cynnar fod yn ateb hirdymor i ymdrin â phatrymau ymddygiad sy’n arwain at gam-drin treisgar a gorthrechol ym mherthynas pobl â’i gilydd.