Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, er bod angen i mi ymhelaethu ychydig ar fy nghwestiwn gwreiddiol. Ond rwy’n siwr ei fod yn derbyn, ers mis Ionawr y llynedd, fod yr awyr wedi bod yn dywyll iawn dros Bort Talbot a’r gwaith dur yno, y gymuned leol a’r economi leol. Fe welwn yn awr, efallai, ar ôl y bleidlais hon, yr awyr dywyll honno’n diflannu a mwy o sicrwydd yn dechrau ymddangos dros y tymor canolig.
Nawr, mae gweithwyr dur wedi rhoi cyfle i Tata ailfeithrin yr hyder y maent wedi’i golli, neu o leiaf wedi’i ysigo, dros y misoedd diwethaf, a gobeithio y bydd Tata yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn cyflawni’r buddsoddiad a addawyd cyn gynted ag y bo modd, ynghyd â’r pwyntiau eraill yn y cynigion, gan gynnwys cydraddoldeb i’w gweithlu â gweithfeydd ar draws yr UE.
Nawr, mae gweithwyr wedi aberthu er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r diwydiant ac rwy’n gobeithio, efallai, y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad er mwyn sicrhau bod y blaenoriaethau hynny a buddiannau gweithwyr dur yn flaenaf. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod yn cytuno bod angen i hynny ddigwydd ar draws pob un o’r partïon, nid Llywodraeth Cymru’n unig, ond Llywodraeth y DU a Tata ei hun.
A gaf fi gofnodi fy nghydnabyddiaeth i waith caled ac ymrwymiad yr undebau llafur, sydd wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn yn ystod y cyfnod hwn er budd eu haelodau a’r diwydiant? Ond Ysgrifennydd y Cabinet, un cam yn unig ar y llwybr i ddyfodol cynaliadwy yma yng Nghymru ac ar draws y DU yw canlyniad y bleidlais heddiw, ac mae gennym ffordd bell i fynd o hyd o ganlyniad i hynny. Felly, a gaf fi ofyn y canlynol i chi: pa drafodaethau a gawsoch gyda Tata ar eu cynlluniau buddsoddi a’r amserlenni sy’n gysylltiedig â’r cynlluniau hynny? Ac a ydych wedi cael unrhyw sicrwydd ganddynt mewn perthynas â chyflawni eu hymrwymiadau yn y cynnig hwnnw? Pa mor gyflym y gallwch chi fel Llywodraeth Cymru fod mewn sefyllfa i gefnogi buddsoddiad mewn gwirionedd? Gwn eich bod eisoes wedi ymrwymo £12 miliwn, ond pa mor gyflym y gallwch chi ymrwymo cyllid arall ar gyfer agweddau eraill, boed yn ymchwil, offer, hyfforddiant neu feysydd eraill sy’n helpu’r diwydiant? Mae bwgan cyd-fenter ThyssenKrupp yn dal i hongian dros y diwydiant cyfan ac roedd yn bodoli drwy gydol y bleidlais. Nid yw wedi diflannu; mae’n dal i fod yno. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Tata ynglŷn â goblygiadau cyd-fenter o’r fath, yn enwedig i ddiwydiant dur Cymru a’r gweithlu? A ydych wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, gan mai ganddynt hwy y mae’r dulliau i fynd i’r afael â llawer o’r materion a wynebir yn awr yn y diwydiant dur? Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â’u gweithredoedd, oherwydd hyd yn hyn, i fod yn onest, ychydig iawn o weithredu a welais gan Lywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn awr yn chwarae eu rhan yn gwneud y diwydiant dur yma yng Nghymru yn ddiwydiant dur diogel, un sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac un a fydd yn parhau i gyflawni? Mae’r gweithlu wedi gwneud eu gwaith. Maent wedi ymroi dros y pedwar mis diwethaf. Maent wedi cyflawni lefelau cynhyrchu y tu hwnt i’r lefelau uchaf. Maent hyd yn oed wedi cefnogi’r bleidlais hon ar gost iddynt eu hunain mewn gwirionedd. ‘Does bosibl na ddylai eich trafodaethau fod yn dweud wrth Lywodraeth y DU i sefyll ar ei thraed a rhoi camau gweithredu ar waith. Rydym eisiau gweld y camau hynny. Mae gweithwyr dur eisiau gweld y camau hynny. A allwch ddweud wrthyf beth y maent yn ei wneud?