Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 28 Chwefror 2017.
Yn gyntaf, byddwn yn dymuno atseinio holl sylwadau Cadeirydd y pwyllgor. Rydw i wir yn gweld bod yna werth i’r ddeddfwriaeth yma. Mi fyddwn ni’n cydsynio iddi fynd i’r cam nesaf yn sicr, lle gobeithio y gallwn ni ei chryfhau a’i diwygio. Ond mae’n bwysig iawn, rydw i’n meddwl, ein bod ni, ar y pwynt yma, yn ymwybodol iawn o gyfyngiadau y Bil yma, rhag codi disgwyliadau pobl yn ormodol. Mae yna elfennau pwysig iawn ynddo fo, heb os, ond mae yna lawer sydd ddim ynddo fo, ac mi fydd angen deddfu cryfach, heb os, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn fwy iach go iawn yng Nghymru, waeth pa mor bwysig ydy’r camau sydd yn y Bil yma ar dyllu y corff a thatŵs ac, yn bwysig iawn, ar ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu, ac yn y blaen.
Fel rydym newydd ei glywed, mynd i’r afael â gordewdra ydy prif her iechyd cyhoeddus ein hamser ni. Rydym i gyd yn gwybod yr ystadegau am yr effaith ariannol mae gordewdra yn ei gael ac y bydd yn ei gael ar yr NHS, ac am yr effaith ddynol mae o’n ei gael ar bobl yn ein cymunedau ni. Ond y cwestiwn ydy: beth allwn ni a beth ddylem ni ei wneud am y peth? Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu yn sicr fod yna sawl gwers y gallwn ni eu dysgu o’r ymdrechion i fynd i’r afael ag ysmygu dros y degawdau diwethaf, a bod y rheini yr un mor berthnasol yn erbyn gordewdra. Mi oeddwn i eisiau Bil yn y fan hyn a oedd yn ceisio ymateb i’r argyfwng mwyaf yna sydd yn ein hwynebu ni o ran iechyd y cyhoedd, ac mi fyddwn innau yn apelio ar y Llywodraeth i barhau i chwilio am ffyrdd, drwy’r Bil yma, i gymryd camau pendant. Ond, yn anffodus, mae wedi bod yn broses rwystredig yn y pwyllgor hyd yma. Rydym wedi gweld bod y diffyg pwerau, o bosib, sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn atal rhai o’r camau y byddem ni, yn sicr, ym Mhlaid Cymru yn dymuno eu cymryd—gwahardd hysbysebu rhai mathau o fwydydd, trethu rhai mathau o fwydydd a diodydd ac yn y blaen.
Wrth gwrs, mae’n bwysig cofio bod yna lawer yn y maes yma y gall y Llywodraeth ei wneud heb ddeddfu. Mae angen cyfathrebu yn llawer mwy effeithiol efo pobl ac efo gweithwyr proffesiynol hefyd am ddeiet iach, pwysigrwydd ymarfer corff ac yn y blaen. Mae eisiau i’r Llywodraeth feddwl yn fwy cydgysylltiedig. Nid yw’n syniad da cyfyngu ar oriau canolfannau hamdden neu gau canolfannau hamdden yn ystod argyfwng gordewdra. Mae eisiau buddsoddi, rywsut, mewn adnoddau i ganiatáu a hybu bywyd iach, fel rydym ni yn buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd. Nid oes angen deddfu bob amser, ond rwy’n meddwl y bydd angen deddfu, ac rwy’n edrych ymlaen at pan fyddwn ni’n gallu deddfu mwy. Nid dyma fydd y Bil iechyd y cyhoedd olaf, heb os, ond nid dim ond gordewdra—fe allwn ni edrych ar faterion fel atal llygredd, er enghraifft, fel meysydd arall.
Mi fyddwn i hefyd yn licio tynnu sylw at ba mor bwysig ydy bod craffu ar ôl deddfu yn digwydd i raddau mwy nag efallai y mae o wedi cael ei wneud o’r blaen, os ydy’r Bil yma yn pasio. Rydym wedi gweld dro ar ôl tro, pan mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, fod ein sylw ni weithiau yn gallu crwydro oddi wrth y nod go iawn, a’n bod ni’n methu â monitro y cynnydd sy’n cael ei wneud o ganlyniad i Fil.
Mae hyn yn ein harwain ni at fy mhwynt olaf i ynglŷn ag asesiadau effaith ar iechyd. Mi oeddem ni yn sicr fel plaid yn eiddgar i weld asesiadau effaith ar iechyd yn dod i’r Bil gwreiddiol. Mi lwyddodd y pwysau yna i weithio. Mi osodwyd hyn, ac roeddem yn ddiolchgar i’r Llywodraeth ddiwethaf am roi hyn ar wyneb y Bil hwnnw, er i’r Bil fethu yn y pen draw. Ac mae hynny’n berthnasol y tro yma hefyd. Rydym i gyd yn cefnogi ac yn deall y rhesymau pam ein bod ni eisiau i sefydliadau gynnal asesiadau effaith ar iechyd, ond mi fyddwn i’n rhybuddio’r Gweinidog ar y pwynt yma mai yn y gweithredu y bydd y manteision yn cael eu Bil go iawn. Yn rhy aml, rwy’n meddwl, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld asesiadau cydraddoldeb neu asesiadau effaith amgylcheddol yn cael eu gwneud, ond yna’n cael eu hanwybyddu. Gyda llaw, rwy’n cefnogi ychwanegu’r gair ‘llesiant’—asesiadau iechyd a llesiant. Dyna sy’n bwysig, ond allwn ni ddim gadael i’r asesiadau hynny fod yn ymarfer ticio bocsys.
Felly, ar y cyfan, y neges i gloi ydy na ddylem ni ddim edrych ar basio’r ddeddfwriaeth yma fel diwedd y daith—y nod o gael poblogaeth iachach rydym ni’n anelu ato fo. Mae yna fesurau pwysig, yn sicr, yma o ran creu poblogaeth fwy diogel, ond gadewch inni fynd drwy’r broses rŵan—cynnig gwelliannau, cynnig ffyrdd o gryfhau’r hyn sydd gennym ni o’n blaenau ni rŵan, tra’n cadw mewn cof yr hyn y dylem ni fod yn anelu ato fo yn y pen draw.