Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 1 Mawrth 2017.
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwyf wedi derbyn adroddiad Cymru Hanesyddol y grŵp llywio. Mae’n adroddiad ardderchog. Rwy’n ei ystyried ar hyn o bryd a byddaf yn ymateb yn ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd yn aros am ymatebion ffurfiol gan y sefydliadau y mae’r papur yn ymwneud â hwy.
O ran Cadw, byddaf yn rhoi sylw arbennig i’r argymhelliad hwnnw. Mae Cadw wedi perfformio’n eithriadol o dda fel rhan o’r Llywodraeth dros y 12 mis diwethaf, ac rwyf am sicrhau bod y llwyddiant hwnnw’n parhau. Un o’r rhesymau pam fod Cadw wedi gweld cynnydd mor nodedig o ran nifer yr ymwelwyr ac aelodau, ac yn wir, o ran swm yr incwm a gynhyrchwyd, yw am fod rhyddid a hyblygrwydd gan y personél yn y sefydliad i weithredu mor fasnachol ag y dymunant. Pa un a yw Cadw’n aros yn rhan o’r Llywodraeth ai peidio, hoffwn sicrhau bod y bobl iawn yno—y bobl iawn, sy’n llawn dychymyg, os mynnwch—i arwain y sefydliad er mwyn denu mwy o ymwelwyr.