Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr am eich ateb. Rwyf am symud ymlaen yn awr at rywbeth arall yr ydym wedi bod yn aros peth amser amdano, sef yr adolygiad o amgueddfeydd bychain, a gyflwynodd adroddiad ym mis Awst 2015. Cafodd ei groesawu gan y sector, ac er i’r Llywodraeth oedi am chwe mis cyn ymateb i’r argymhellion, maent yn awyddus i weld cynnydd.
Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf nad yw rhai o’r argymhellion yn cael eu cyflawni, nid ag unrhyw frys o leiaf. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi rhyw syniad inni ynglŷn â sut y mae eich adran yn monitro a chraffu ar eich partneriaid mewn gwirionedd, gan gynnwys awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod y syniadau da hynny’n trosi’n arferion da.