<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:11, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddychwelyd, os caf, at fewnfuddsoddiad a’r rôl y dylai ei chwarae yn ein strategaeth economaidd ehangach. Bydd diddordeb gan Aelodau’r Cynulliad mewn gwybod bod y Prif Weinidog, yn yr ychydig funudau diwethaf, wedi dweud wrth y BBC y byddai taith i Detroit yn ddibwynt, ac o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, byddai’n rhaid i lawer o sylwebwyr ddod i’r casgliad ei fod yntau’n Brif Weinidog eithaf dibwynt.

Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddo baratoi i ddatgelu ei strategaeth economaidd newydd, pa mor bwysig y dylai mewnfuddsoddi fod i economi Cymru wrth symud ymlaen yn ei farn ef o ystyried bod yna lai o brosiectau mewnfuddsoddi mawr nag yn y gorffennol, ac nad ydym yn llwyddo i’w hennill. Ni lwyddasom i ennill Jaguar Land Rover a fydd yn gwneud yr injans o Ben-y-bont o hyn ymlaen. Chwe blynedd yn ôl, ni lwyddasom i ennill Boeing. Roedd pennawd yn y ‘Western Mail’ yn dathlu’r ffaith fod Cymru wedi dod yn ail. Roedd yn swnio fel rhai o’r cyfweliadau a glywsom yn ddiweddar ar ôl gêmau. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig hyd at £50 miliwn i Boeing ddod i Gymru, fel y clywais? A all gadarnhau hefyd mai un o’r rhesymau y penderfynodd Boeing beidio â dod oedd am eu bod yn pryderu ynglŷn â digonolrwydd ac ansawdd y sylfaen sgiliau leol?