Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 1 Mawrth 2017.
Credaf fod yr Aelod yn iselhau ei hun gyda’i sylwadau dirmygus am y Prif Weinidog nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i roi sicrwydd i’r gweithwyr hynny. Ond mewn gwirionedd, mae’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn yr ychydig funudau diwethaf yn cadarnhau fy mod wedi bod yn siarad â’r unigolyn cywir—yr un a fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â Ford. O ran prosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor, mae cynnydd o 77 y cant wedi bod yn nifer y prosiectau a chynnydd o 84 y cant yn nifer y swyddi gyda chwmnïau sydd â’u pencadlysoedd mewn rhannau eraill o’r DU yn dod i Gymru. Mae gennym hanes balch iawn o ddenu buddsoddiad i Gymru, fel y dengys Aston Martin. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn fwyfwy pwysig inni weithio gyda busnesau a buddsoddwyr yn Lloegr, a dyna pam y credaf y bydd allforion—nid dramor yn unig, ond hefyd allforion dros y ffin i Loegr, yr Alban ac Iwerddon—yn dod yn hanfodol. Credaf fod yn rhaid inni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng denu mewnfuddsoddiad a sicrhau bod mwy o gwmnïau cynhenid a busnesau yng Nghymru yn allforio y tu hwnt i Gymru. Oherwydd hynny, rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid inni sicrhau mynediad dilyffethair a di-dariff at y farchnad sengl wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n falch iawn—mae wedi cymryd peth amser—ond rwy’n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn siarad bellach am berthynas ddilyffethair a diffrithiant. Credaf fod hynny’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn iawn o’r cychwyn cyntaf i alw am fynediad dilyffethair heb unrhyw dariff na rhwystrau technegol sy’n atal cwmnïau yng Nghymru rhag allforio. Ond ar y cyfan, credaf y bydd allforion yn dod yn fwy pwysig i dwf a ffyniant economaidd Cymru.