Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch am y cwestiwn. Lansiwyd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin gennym ym mis Chwefror 2015 a sefydlwyd y grŵp gweithredu ar glefydau prin. Mae’r camau hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb mynediad at ddiagnosis, triniaeth a chymorth i gleifion. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol, sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf ar gynnydd, ar 14 Chwefror.