Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 1 Mawrth 2017.
Weinidog, roeddwn yn falch iawn o glywed mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn y Cynulliad fod Llywodraeth Cymru yn arwain yn y maes hwn yn y DU. Er bod y clefydau eu hunain yn brin, ceir nifer fawr ohonynt, sy’n golygu bod un o bob 17 ohonom yn debygol o ddioddef o glefyd prin ar ryw adeg yn ein bywydau, pan fydd sgrinio, profion, diagnosis a thriniaeth yn gwbl hanfodol. Rwy’n credu ei fod yn faes pwysig iawn, sy’n aml yn cael ei esgeuluso o bosibl am fod pob cyflwr penodol yn brin, felly rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i gael blaenoriaeth.