<p>Clefydau Prin</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:54, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â chleifion a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan hemoffilia a gwaed halogedig yn y digwyddiad clefydau prin y cyfeiriodd David Melding ato. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n bryderus iawn ynglŷn â thriniaeth pobl â hemoffilia a gafodd waed halogedig yn y 1970au a’r 1980au, gan arwain at 70 o farwolaethau yng Nghymru a llawer mwy o deuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt. Rwy’n ymwybodol ei fod wedi ysgrifennu at ei weinidog cyfatebol yn y Senedd, Jeremy Hunt, y llynedd yn cefnogi ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal. Roeddwn yn meddwl tybed a allai ddweud wrthym a yw wedi cael ateb ac os nad yw, beth y mae’n bwriadu ei wneud ymhellach, ac os yw wedi cael ateb, beth yw ei ymateb ef?