<p>Clefydau Prin</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:55, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Na, ni fyddwn yn dweud fy mod wedi cael ateb boddhaol gan Lywodraeth y DU. Ar ôl dadl drawsbleidiol yr Aelodau a gawsom yn y Siambr hon, euthum ati eto i bwyso ar Lywodraeth y DU, ac rwy’n disgwyl ymateb pellach. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn amharod i gael ymchwiliad cyhoeddus, ac rwy’n cydnabod y bydd honno’n broblem barhaus i deuluoedd y rhai yr effeithiwyd arnynt, yn fyw ac yn farw, oherwydd hyd nes y ceir ymchwiliad cyhoeddus priodol—na all neb ond Llywodraeth y DU ei ddarparu oherwydd lleoliad y wybodaeth ynglŷn â sut y ffrwydrodd y sgandal a’r modd na chafodd ei dwyn i sylw’n briodol—yna rwy’n cydnabod y bydd yr anghyfiawnder yn parhau. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn cynnal ein hymrwymiad i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU hyd nes y gwelwn fod y peth iawn yn cael ei wneud.