Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaeth Heddlu De Cymru ymdrin â mwy o ddigwyddiadau iechyd meddwl y llynedd nag unrhyw heddlu arall yn y DU. Fe wnaeth swyddogion yr heddlu yn ne Cymru ymdrin â bron i 39,000 o ddigwyddiadau iechyd meddwl yn ystod 2016. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno y dylai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael gofal gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, yn hytrach na’r system cyfiawnder troseddol? A allwch amlinellu’r camau gweithredu yr ydych yn eu cymryd i leihau nifer y digwyddiadau iechyd meddwl sy’n cael eu trin gan swyddogion yr heddlu?