<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:01, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y sylwadau. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn glir ynglŷn â’r hyn yr ydym yn siarad yn ei gylch, oherwydd mae i ba raddau y mae pobl yn parhau i weld cell heddlu fel man diogel yn parhau i fod yn her, ac nid dyna farn y Llywodraeth hon, na’r heddlu, na’r gwasanaeth iechyd. Mewn gwirionedd gwnaed llawer o waith gwell rhwng GIG Cymru a heddluoedd ar draws y wlad, ac rwy’n falch o weld bod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a leolwyd yn amhriodol. Rydym yn awr i lawr at ffigurau bach iawn. Mae’n dal i fod angen gwelliant pellach, ond mae’n dibynnu’n wirioneddol ar y categoreiddio y mae’r Aelod yn ei ddefnyddio, a pha un a yw’r rhain yn bobl sy’n rhannol yn y system cyfiawnder troseddol yn briodol ai peidio neu’n bobl â phroblemau iechyd meddwl sy’n cael eu camleoli a heb fod yn cael gofal priodol ar gyfer eu hanghenion gofal eu hunain mewn gwirionedd.