<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:03, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod yn croesawu camau i wella’r niferoedd sy’n gweithio ym maes gofal iechyd meddwl, megis cyflwyno cyrsiau newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, rydym yn dal i fod yn brin o staff a chyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Sut rydych yn ymateb i gyfarwyddwr Mind Cymru, sy’n datgan nad yw’r maes iechyd meddwl yn cael digon o arian o bell ffordd o hyd? Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu adnoddau a ddyrennir i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl, a wynebir gan un o bob pedwar ohonom?