Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 1 Mawrth 2017.
Wel, fe fyddwch yn gwybod o’r gyllideb fod y lle hwn wedi pasio i roi adnoddau ychwanegol sylweddol tuag at iechyd meddwl. Dyma’r maes gwariant mwyaf yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd, a deilliodd hynny o’r drafodaeth synhwyrol ac aeddfed a ddigwyddodd rhwng y Llywodraeth hon a Phlaid Cymru ac eraill. Nawr, mae hynny wedi golygu ein bod yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd meddwl fel maes gweithredu, ac nid dyna’r sefyllfa y mae’r trydydd sector yn cydnabod sy’n digwydd dros y ffin. Nid wyf yn cwyno bod y trydydd sector yn y maes hwn, neu unrhyw faes arall, yn galw am fwy o adnoddau. Eu gwaith yw ymgyrchu; eu gwaith yw hyrwyddo achosion. Ein gwaith ni, fodd bynnag, yw rheoli grŵp cyfyngedig o adnoddau. Felly, nid wyf yn meddwl ei bod yn ddigon da i Lywodraeth ddweud yn syml, ‘Mae rhywun wedi galw am fwy, felly byddwn yn ei ddarparu’. Mae’n rhaid i ni gydbwyso hynny yn erbyn blaenoriaethau eraill. Rwy’n glir fod hwn yn faes gweithredu â blaenoriaeth, ac rydym yn gweld hynny mewn gweithred ac nid mewn geiriau’n unig gyda’n buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.