Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn gyfeirio’n benodol at sgrinio ceg y groth, os caf. Rwy’n credu ein bod i gyd yn cytuno ar fanteision diagnosis cynnar o ganser lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ond mae hyn hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â’r oed priodol y dylai sgrinio penodol ddechrau. Nid wyf yn gwybod ai fi yw’r unig un sy’n cael etholwyr yn dod ataf i alw am newid y drefn sgrinio ceg y groth i fenywod yn ôl i sgrinio’n 20 oed, ond yn sicr mae pobl wedi bod yn cysylltu â mi ar hyd y llinellau hynny.
Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, fod y penderfyniad i godi’r oedran o 20 i 25 oed yn 2013 yn seiliedig ar arweiniad gan bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU, a oedd nid yn unig yn cwestiynu manteision sgrinio cynnar ond hefyd yn amlygu peth o’r niwed posibl yn sgil sgrinio rheolaidd i fenywod o dan 25 oed. Yn y cyd-destun hwnnw, cafodd y broses o gyflwyno’r brechlyn HPV i ferched ysgol rhwng 12 a 13 oed groeso mawr, fel y cafodd y profion sylfaenol ar gyfer HPV yn rhan o’r broses sgrinio.
Fodd bynnag, mae fy mhrif bryder mewn perthynas â sgrinio canser ceg y groth yn ymwneud â’r gostyngiad bychan yn y ganran o fenywod sy’n dod i gael eu sgrinio. Yn benodol, mae’n amlwg yn is mewn ardaloedd difreintiedig. A fuasai’r Gweinidog yn cytuno, ochr yn ochr â’r newidiadau a welwn mewn sgrinio am ganser ceg y groth, fod angen sicrhau bod yna rôl allweddol i Lywodraeth Cymru a phob darparwr gofal iechyd, nid yn unig i chwarae eu rhan yn codi ymwybyddiaeth cleifion o’r darpariaethau sgrinio, ond hefyd o ran gweithredu yr hyn yr oedd NICE yn ei alw’n drothwy amheuaeth isel wrth ystyried atgyfeiriadau ar gyfer profion? Dyna’r trothwy lle y bydd meddyg teulu neu ddarparwr iechyd, yn seiliedig ar symptomau, yn penderfynu atgyfeirio’r claf i gael profion pellach.