Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch am y cwestiwn. Mae adrannau achosion brys yng Ngorllewin De Cymru wedi parhau i brofi pwysau a galw sylweddol drwy gydol y gaeaf hwn. Bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn cofio mai dyma ran o’r rheswm pam y ceir ymyrraeth wedi’i thargedu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, oherwydd y diffyg cynnydd parhaus ym maes gofal heb ei drefnu. Gwelwyd rhywfaint o welliant o’i gymharu â’r gaeaf diwethaf, ond mae cynnydd pellach i’w wneud eto.