<p>Amseroedd Aros ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:32, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ac rwy’n falch eich bod yn cydnabod y pryderon, ac yn gallu cadarnhau bod ymyrraeth yn digwydd bellach mewn gwirionedd. Mae gennyf gwestiwn ychydig yn wahanol i’w ofyn i chi, felly byddwch yn amyneddgar gyda mi ar hyn, oherwydd mae’n ymwneud â nyrsys ardal.

Mae’r Cynulliad, fel y gwyddoch, wedi cael tystiolaeth fod nifer y nyrsys ardal yng Nghymru wedi gostwng 40 y cant yn y pum mlynedd ddiwethaf, gydag ofnau y ceir colledion pellach. Ac mae’r gwaith y mae nyrsys ardal yn ei wneud yn sicrhau adferiad cleifion yn eu cartrefi eu hunain yn bendant yn rhan o gadw pobl allan o’r ysbyty, ac at hynny rwy’n dod ar hyn. Ni ddylai pethau fel cathetrau wedi blocio a chlwyfau heb eu gorchuddio ynddynt eu hunain fod yn rhesymau i bobl fynd i’r ysbyty mewn gwirionedd. Ond os nad ymdrinnir â hwy, fe ddont yn rhesymau dros fynd i’r ysbyty; gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn, gan gynnwys pethau fel sepsis.

Felly, a allwch ddweud wrthym beth yw lefel y derbyniadau brys i ysbytai, yn Nhreforys, ac mewn mannau eraill, o ganlyniad i gyflyrau sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i ddiffyg sylw cyson gan nyrsys ardal, ac effaith hynny wedyn ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys? Efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a fydd y cyllid newydd a gyhoeddwyd gennych ar gyfer staff nyrsio yn sicrhau y cynhelir y mathau o sgiliau sydd gan y nyrsys ardal yr ydym mewn perygl o’u colli. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.