– Senedd Cymru am 3:51 pm ar 1 Mawrth 2017.
Eitem 4, felly, yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ymchwiliadau ac ymgysylltu. Galwaf ar Huw Irranca-Davies fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol, Dydd Gŵyl Dewi, mae’n gyfle delfrydol i mi i siarad ar ran y pwyllgor i amlinellu ein hymchwiliad cyfredol ar daith ddatganoli Cymru. Wrth edrych yn ôl, byddwn hefyd yn edrych ar sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn awr ac yn y dyfodol, weithio gyda chymheiriaid ar draws y DU i wella bywydau dinasyddion ymhellach ar draws ein gwlad.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dal i fod yn sefydliad democrataidd ifanc iawn. Mae’n llai na dau ddegawd oed, ac eto mae wedi ymsefydlu’n gadarn yn rhan o fywyd dinesig a chyfansoddiadol Cymru; mae fel pe bai bob amser wedi bod yno i genedlaethau newydd o bobl ifanc. Eto i gyd, proses yn unig yw’r broses ddatganoli. Yn aml, soniwyd am ddatganoli fel taith, nid cyrchfan. I rai mae hynny’n bryder, ac i eraill mae’n gyfle. Ond beth bynnag yw eich safbwynt, mae’n sicr yn realiti. Gan gynnwys y Ddeddf Seneddol a sefydlodd Lywodraeth gyntaf Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bellach cafwyd pump—do, pump—darn sylweddol o ddeddfwriaeth o San Steffan sydd wedi ein helpu ar y daith. Mae pob un, i raddau amrywiol, wedi bod yn ddadleuol neu’n heriol. Mae pob un wedi mynd â ni gam ymlaen, er y gellid dadlau bod yna gam achlysurol wysg ein hochr neu am yn ôl wedi bod hefyd.
Yn y cyfamser, gyda mwy a mwy o bwerau mewn sawl maes, rydym wedi gwneud ein deddfau ein hunain mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, gan adeiladu corff newydd o ddeddfwriaeth ‘a wnaed yng Nghymru’. Gwyddom fod llawer o ddarnau garw wedi bod ar y ffordd ar y daith hon, a’r darnau garw hynny’n deillio weithiau o drafodaethau anodd—yn wleidyddol ac o ran polisi—rhwng adrannau Whitehall a Llywodraeth Cymru ar y pwerau diweddaraf i’w trosglwyddo. Neu mae’n bosibl mai materion adrannol o un wythnos i’r llall yn ymwneud â pholisïau gwahanol ar yr economi, iechyd neu addysg ac yn y blaen yw’r darnau garw hynny. Felly mae ein pwyllgor wedi penderfynu ystyried y daith hyd yn hyn, darganfod beth sydd wedi gweithio’n dda, a beth sydd wedi bod yn llai effeithiol. Mae ein bwriad yn driphlyg: cynhyrchu egwyddorion arfer gorau ar gyfer gwaith rhyngsefydliadol gogyfer â deddfwriaeth gyfansoddiadol; ystyried ac adeiladu ar waith deddfwrfeydd eraill ar weithio rhyngsefydliadol fel y mae’n ymwneud â meysydd polisi ehangach; ac yn drydydd, ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd i weithio’n rhyngseneddol, gan gynnwys hyrwyddo ymgysylltiad â dinasyddion.
Bydd ein profiad diweddar o graffu ar yr hyn sydd bellach wedi dod yn Ddeddf Cymru 2017 yn helpu i lywio ein gwaith, ac yn ein helpu i nodi sut y gellir datblygu a gwella’r berthynas rhyngom ag eraill. Fel pwyllgor, rydym eisoes wedi ceisio dysgu gwersi: rydym wedi cydnabod y manteision o weithio ar y cyd â Phwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, lle na fyddai pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gweithio ar ei ben ei hun, yn gallu gwneud hynny o bosibl. Mae hyn wedi dangos yr angen am gysylltiadau rhyngsefydliadol effeithiol, ac mae’n un o’r ysgogiadau i edrych yn fanylach ar y materion hyn ar lefel seneddol.
Mae ein hymchwiliad wedi’i rannu’n ddwy elfen. Bydd y gyntaf yn edrych ar sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol wedi esblygu ac wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli. Ac i’n helpu i edrych ar y daith a deithiwyd gennym, rydym wedi sicrhau casgliad trawiadol, yn fy marn i, o’r rhai a fu ar flaen y gad yn ffurfio a gweithio gyda datganoli dros y 18 mlynedd ddiwethaf. Rwy’n meddwl y byddant yn ein helpu i ddeall pam y mae datganoli weithiau’n rhedeg yn esmwyth iawn, ac ar adegau eraill yn wynebu rhwystrau mawr—yn gyhoeddus iawn weithiau. Byddwn yn edrych ar y bobl a’r personoliaethau, byddwn, ond hefyd y mecanweithiau sydd i fod i roi olew yn y peiriant a chadw’r berthynas rhwng y sefydliadau hyn i redeg yn llyfn. Yn wir, rydym eisoes wedi cymryd tystiolaeth gan yr Arglwydd Murphy. Siaradodd am bwysigrwydd meithrin cysylltiadau personol a’r her o newid meddylfryd yn Whitehall, lle y mae angen i hynny ddigwydd, ymhlith pethau eraill.
Fodd bynnag, mae’n ymwneud â mwy na myfyrio ar y gorffennol. Mae’n rhaid i ni hefyd gael dealltwriaeth lawn o sut y mae’r strwythurau a’r polisïau presennol yn gweithredu’n ymarferol. I’r perwyl hwn, bydd yr ail elfen yn archwilio natur y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sut y mae’r gydberthynas hon yn gweithredu a sut y gellir ei gwella. Bydd yn edrych ar gyfleoedd gwell i wella’r modd y dysgir am bolisi rhwng Llywodraethau a Seneddau; ar arferion gorau mewn cysylltiadau rhyngsefydliadol o bob rhan o’r DU y gellid eu trosglwyddo i’r cyd-destun Cymreig; ac ar natur y berthynas rhwng deddfwrfeydd Cymru a’r DU a nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith rhyngseneddol effeithiol.
Nid ein bwriad yw cynhyrchu adroddiad arall i orwedd ar silff yn hel llwch. Mae’r pwyllgor yn awyddus i gael effaith wirioneddol ac uniongyrchol ar weithio rhyngsefydliadol drwy gynhyrchu egwyddorion arferion gorau ac arwain o’r tu blaen wrth adeiladu’r gydberthynas hon. Mae gwledydd eraill yn rheoli’r berthynas yn llwyddiannus a chredwn fod yna ddigon y gallwn ei ddysgu a’i addasu o arferion da mewn mannau eraill.
Mae Aelodau’r Cynulliad yn gweld effaith gweithio rhyngsefydliadol, cadarnhaol a negyddol, bob dydd mewn perthynas â materion trawsffiniol lle y gall llinellau datganoli fod yn aneglur weithiau. Dyna pam ei bod mor bwysig ymgysylltu â’r cyhoedd i ddeall yr effaith y gall y cysylltiadau hyn ei chael ar ein dinasyddion. I’r perwyl hwn rydym wedi treialu panel dinasyddion bach—am y tro cyntaf yn y Cynulliad—i helpu i ddeall canfyddiadau trawstoriad o’r cyhoedd. Byddwn hefyd yn gweithio’n galed i siarad â sefydliadau nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â’r Cynulliad ac i ddarganfod pam nad yw hynny’n digwydd.
Mae pwysigrwydd y gwaith hwn hefyd yn cael ei ddwysáu gan oblygiadau cyfansoddiadol y setliad datganoli yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n hanfodol fod y gwaith rhyngsefydliadol sydd ei angen i hwyluso trosglwyddiad llyfn ar draws y gwledydd sy’n rhan o’r DU yn addas i’r diben. Wrth wneud hynny mae angen i ni sicrhau nad ydym yn colli pwerau a chymhwysedd sydd ar hyn o bryd yng Nghymru wrth i ni adael yr UE. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymchwiliad yn cyfrannu at sicrhau nad yw hynny’n digwydd.
Mae datganoli—symud pŵer yn nes at y bobl rydym yn eu gwasanaethu—yma i aros. Fel y cyfryw, i Gymru a’r gwledydd a’r rhanbarthau datganoledig, ond hefyd er lles y Deyrnas Unedig, mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n effeithiol i bob un o’n dinasyddion. Bydd yr ymchwiliad hwn yn mynd at wraidd y cysylltiadau rhyngsefydliadol hynny, ac yn dangos y ffordd ymlaen ar gyfer gweithio’n well yn y dyfodol.
Bydd yr ymchwiliad hwn yn mynd â llawer o’n hamser yn y misoedd i ddod. Ochr yn ochr â hynny, rydym hefyd yn bwriadu edrych ar godeiddio cyfraith Cymru. Fel cam cyntaf, edrychwn ymlaen at groesawu’r Cwnsler Cyffredinol i bwyllgor yn ddiweddarach yn y gwanwyn i drafod ei syniadau yn y maes hwn a phenderfynu sut i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Ac wrth gwrs, byddwn hefyd yn cyflawni ein rôl greiddiol: craffu ar yr holl is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw Fil a gyflwynwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ac yn y rôl honno byddwn yn parhau i edrych ar ansawdd y ddeddfwriaeth, yn enwedig yn erbyn casgliadau ac argymhellion adroddiad y pwyllgor a’n rhagflaenodd, ‘Deddfu yng Nghymru’.
Byddwn yn parhau i ofyn: a ydym yn gwneud cyfraith dda a sut y gellir ei gwella? Yn rhan o hynny, byddwn yn edrych ar gydbwysedd y ddeddfwriaeth a faint o bolisi sy’n cael ei adael i’w gyflwyno gan is-ddeddfwriaeth, na ellir ei newid wrth gwrs, ac sydd felly’n destun llai o graffu. Byddwn hefyd yn monitro defnydd a graddau pwerau Harri’r VIII a geisir gan Weinidogion, y defnydd o ddarpariaethau canlyniadol ac yn gysylltiedig â’r ddau, y gweithdrefnau sydd ynghlwm wrth y broses o lunio’r holl is-ddeddfwriaeth.
Felly, ar y diwrnod hwn cofiwn am Ddewi Sant, a ddywedodd wrthym fod y pethau bychain yn bwysig. Bydd ein pwyllgor yn parhau i ofalu am y pethau bach ond pwysig yn ein cyfraith a’n cyfansoddiad, a thrwy wneud hynny, efallai y cawn gipolwg hefyd ar y pethau mwy sy’n ein hwynebu fel sefydliad democrataidd ac fel cenedl.
Diolch yn fawr iawn. David Melding.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddweud, rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn bwyllgor hapus iawn i wasanaethu arno am fod bron yr holl faterion yr edrychwn arnynt yn ymwneud â hyrwyddo llywodraethu a chraffu da a chlir ac yn aml iawn nid oes yn rhaid i ni lafurio o dan faich pleidiol trwm a rhaniadau, ac mae hynny’n ddymunol tu hwnt. Rydym yn anghydweld o bryd i’w gilydd—mewn sesiynau preifat fel arfer, ond maent yn achlysuron eithriadol o brin.
Croesawaf yn arbennig y pwyslais y mae’r Cadeirydd wedi’i roi ar archwilio gwaith rhynglywodraethol a gweithio rhyngseneddol, oherwydd, wrth i ni weld datganoli’n aeddfedu, a her Brexit ynghyd â hynny yn awr o ran y ffordd y bydd yn newid ein patrymau llywodraethu, mae’n ymddangos i mi y bydd hynny’n golygu bod angen rhywfaint o ffurfioldeb o bosibl. Rydym yn edrych ar hynny. Rydym yn gwybod bod y Prif Weinidog wedi siarad am gyngor Gweinidogion a rhyw fath o gyflafareddu annibynnol. Mae’r rhain yn syniadau diddorol iawn a byddent yn newid y trefniadau cyfansoddiadol yn sylweddol. Ond mae’n ymwneud â mwy na’r posibilrwydd fod gofyn cael, a chraffu ar fframweithiau o’r DU—craffu ar agweddau ohonynt, beth bynnag—mewn gwahanol ddeddfwrfeydd, mae hefyd yn golygu dysgu arferion gorau, gweld ble yr archwiliwyd her arbennig yn fanwl iawn mewn Senedd arall o bosibl, a pheidio â gorfod gwneud yr holl waith hwnnw ein hunain, gan ei gymryd, a’i addasu efallai, ac ychwanegu ato.
Rwy’n credu mai’r mathau hyn o gysylltiadau sydd ar goll weithiau. Maent yn tueddu i fod gryfaf ymhlith swyddogion, ond yn syndod o wan o ran y gweithredwyr gwleidyddol eu hunain. Felly, rwy’n meddwl bod llawer yno sy’n mynd i fod o fudd ymarferol mawr ac yn rhywbeth y byddem eisiau ei rannu â rhannau eraill o’r DU.
Rydym wedi siarad am godeiddio ac rwy’n falch o weld y Cwnsler Cyffredinol yma. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru. Mae’n mynd i alw am gyflymder ac ymdrech, rwy’n credu, oherwydd ni fydd y cyfle hwn gennym am byth. Ond mewn gwirionedd gallem gyflwyno rhywbeth sy’n eithaf unigryw yn Ynysoedd Prydain, am fod gennym y cyfle hwn o fod heb fod â chyfreithiau ar wahân yn ffurfiol, i gael ein pwerau deddfu sylfaenol ein hunain yn awr, ac mae’r gallu i gael llyfr statud llawer cliriach yn mynd i fod yn agored i ni. Mae’n ymwneud yn llwyr ag eglurder y ddeddfwriaeth, sydd, yn ei dro, yn gwneud y ddeddfwriaeth yn llawer mwy hygyrch i’r dinesydd. Rwy’n credu fy mod wedi gwneud y sylw hwn o’r blaen: ceir llawer o ddeddfwriaeth mewn meysydd eithriadol o bwysig. Rydym yn sôn am dai, addysg ac iechyd, ac mewn rhai o’r agweddau, os ydych am gael gwybod beth yw’r gyfraith mewn gwirionedd, mae angen i chi logi Cwnsler y Frenhines i roi barn i chi. Nawr, ni all honno fod yn sefyllfa dda i fod ynddi. Gyda llaw, nid ydynt bob amser yn darparu barn glir hyd yn oed wedyn. Felly, rwy’n meddwl bod gennym gyfle gwych yma i ddangos ffordd wahanol o weithio.
Yn olaf—nid wyf yn credu mai’r rheini yw’r pethau bychain mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod y rheini’n bethau eithaf mawr, ond pan soniwn am y pethau bychain, mae’n debyg ein bod yn edrych ar sut y caiff is-ddeddfwriaeth ei chyflawni, ac mae’n bwysig, oherwydd fel arfer ceir arferion da gan Lywodraeth Cymru, ond ceir anghysondeb yn ogystal. Weithiau, rydym yn gorfod atgoffa Llywodraeth Cymru am yr angen i ddefnyddio gweithdrefnau cadarnhaol pan fydd pethau o arwyddocâd gwleidyddol go iawn sy’n berthnasol i ddinasyddion yn cael eu penderfynu, a’r angen i beidio â rhuthro’r broses. Mae’r broses gadarnhaol, mewn gwirionedd, yn amddiffyniad gwych i’r Llywodraeth yn ogystal ag i’r ddeddfwrfa, ac mae ei defnydd mwy rheolaidd, rwy’n meddwl, weithiau—wyddoch chi, dylai fod yn rhagdybiaeth, mewn gwirionedd, ni ddylai fod yn eithriad i’r hyn sydd fel arfer yn weithdrefn negyddol.
Yn olaf, a gaf fi ddweud mai lle dinasyddion—? Cyfeiriais yn fyr at eglurder y ddeddfwriaeth, ond rwy’n meddwl y bydd yn rhaid i bob Llywodraeth a deddfwrfa yn y DU, ac yn y byd gorllewinol drwyddo draw mewn gwirionedd, wneud llawer mwy o waith i ymgysylltu â dinasyddion. Nid yw’n ddigon mewn etholiadau’n unig neu obeithio eu bod yn gadael sylwadau ar ein gwefannau. Mae’n rhaid i ni fynd allan i brofi rhai pethau’n uniongyrchol gyda’n dinasyddion. Ond rwy’n croesawu datganiad y Cadeirydd heddiw yn fawr iawn.
A gaf fi groesawu ymateb David i’r datganiad yn fawr iawn, ac a gaf fi gofnodi fy ngwerthfawrogiad, nid yn unig o’i ymagwedd ef tuag at waith y pwyllgor, ond ymagwedd yr Aelodau eraill hefyd? Mae’n bwyllgor sy’n ymdrechu o ddifrif mewn modd hynod o amhleidiol i edrych ar weithrediad effeithiol ein cyfansoddiad a’r ddeddfwriaeth a welwn o’n blaenau, ac mae hynny’n ei wneud yn brofiad pleserus yn rhyfedd iawn, o ran y ffordd yr ydym yn mynd ati. Ond hefyd, yr un fath ag ar bwyllgorau eraill fel y gwn, mae’n sicr yn wir ei fod yn elwa o’r cyfoeth o brofiad—nid yn lleiaf, rhaid i mi ddweud, o’r ffaith fod gennym gyn-Gadeirydd y pwyllgor sydd wedi gweld hanes hir ac esblygiad y materion hyn. Mae’n eithaf cyffrous i weld hefyd, fel y mae David wedi nodi, nad yw’r broses yn dod i ben wrth i ni edrych ar faterion fel codeiddio, ac rwy’n cytuno ag ef, mae’n wych gweld y Cwnsler Cyffredinol yn eistedd yma wrth i ni drafod hyn, oherwydd, fel y soniasom o’r blaen, er bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ac yn ystyriol iawn o ran y ffordd yr awn ati i ddatblygu gwaith arloesol, gallai codeiddio wedi’i wneud yn dda ac yn ystyrlon olygu bod y ddeddfwrfa hon ar y blaen yn amlwg o ran symleiddio ac egluro deddfwriaeth fyw, amser real, sydd wedi’i diweddaru ac sy’n ddealladwy, nid yn unig i fargyfreithwyr y byd hwn, ond i’r bobl sy’n byw drws nesaf i mi ar fy stryd hefyd fel y gallant ei deall a’i defnyddio, ac yn sicr dylem geisio gwneud hynny.
Croesawaf yn fawr iawn hefyd—ac rwy’n meddwl ei fod yn llygad ei le yn dweud hyn—y ffaith ein bod fel arfer yn gweld arferion da gan Lywodraeth Cymru, ac nid ydym yn gyndyn yn y pwyllgor i gydnabod hynny yn ein hadroddiadau. Weithiau, gwn y bydd Gweinidogion yn dweud, ‘O, rydych wedi bod braidd yn llym’ ar y peth hwn neu’r peth arall, ond rydym yn cydnabod lle y ceir arferion da, ac mae arferion da i’w cael o fewn Llywodraeth Cymru. Ein rôl, ac yn sicr, pan gyfeiriais at y pethau bychain—yn rhyfedd ddigon, y pethau bychain y canolbwyntiwn arnynt sy’n gyrru’r gwelliant cynyddol hwnnw mewn gwirionedd. Felly, i’r Cwnsler Cyffredinol, neu i’r rheolwr busnes o’n blaenau, neu Weinidogion eraill a allai fod yn gwrando, fy ymddiheuriadau ein bod weithiau’n garreg yn eich esgid, ond mewn gwirionedd, mae hynny’n golygu ein bod yn symud ymlaen ac yn gwella’r ddeddfwriaeth sydd gennym.
Soniodd hefyd—a gwnaeth David hynny hefyd—am y ffocws sydd gennym yn y pwyllgor ar eglurder y gyfraith, ac addasrwydd i’r diben yn gyfansoddiadol hefyd. Un o’r pethau arbennig o bleserus yn y pwyllgor yn fy marn i, a hefyd yn y flaenraglen yr edrychwn arni, yw fy mod yn credu bod aelodau’r cyhoedd yn aml iawn yn ystyried bod cyfansoddiad a chyfraith yn bethau sydd wedi’u cadw mewn asbig, rhywbeth sydd wedi’i wneud, a’ch bod yn ei osod yno ar y silff, ac yna o dro i dro bydd cyfreithwyr a bargyfreithwyr ac arbenigwyr cyfansoddiadol yn ei dynnu allan ac yn eich cyfeirio at y pwynt perthnasol. Ond mewn gwirionedd, mae’n waith sy’n esblygu’n ddiddorol, a gallwn wneud pethau’n eithaf gwahanol yng Nghymru, ac arloesi ychydig bach, ac rwy’n meddwl mai dyna rydym yn gobeithio ei wneud yma. Felly, diolch i David am ei gyfraniad, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill yma y prynhawn yma.
A allaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei ddatganiad, a hefyd croesawu'r ffordd ymlaen, a hefyd diolch am eiriau aeddfed fy nghyd-aelod o’r pwyllgor, David Melding? Yn naturiol, rydym ni yn dathlu heddiw Dydd Gŵyl Dewi Sant a gwneud y pethau bychan, ac rydym ni yn gwneud rhai pethau bychan fel craffu ar is-ddeddfwriaeth—yn eithaf aml mae hynny yn weddol fach. Ond, wrth gwrs, fel yr oedd David yn ei grybwyll, mae yna bethau mawr yn gallu digwydd hefyd, ac rwy’n olrhain yr holl ddadleuon cawsom ni o gwmpas Deddf Cymru yn awr—Bil Cymru fel yr oedd e.
Wrth gwrs, nid yn unig yn hanes mae gyda ni Dewi Sant, ond rhyw dair canrif ar ei ôl o roedd Hywel Dda—Brenin Hywel Dda; rydw i wedi sôn amdano fe o’r blaen yng nghyd-destun y pwyllgor yma—a’i ddeddfau fo dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl a rhoddodd hawliau i fenywod am y tro cyntaf yn hanes dynoliaeth. Mae’n bwysig nodi hynny, ein bod ni yng Nghymru yn gallu creu deddfau sydd yn gyfan gwbl arloesol, ac, wrth gwrs, mae gyda ni’r cyfle unwaith eto, o dan y setliad cyfansoddiadol diweddaraf yma, i greu deddfau arloesol unwaith eto.
Wrth gwrs, mae yna nifer o bethau wedi newid ers dyddiau Hywel Dda. Rydw i’n falch bod y Cadeirydd, felly, wedi olrhain tri phrif fwriad y pwyllgor ar hyn o bryd a chrybwyll, fel y mae’n dweud yn fan hyn,
‘llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol’ a hefyd ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill yn yr ynysoedd hyn
‘o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach’.
Call iawn, ac mae gwir angen gwella cydweithio rhwng y gwahanol senedd-dai yn yr ynysoedd hyn. Rydym ni i gyd yn gallu crybwyll hanesion o’r gorffennol, pan oedd y lle hwn a phwyllgorau yn y lle hwn yn tueddu cael eu hanwybyddu yn eithaf aml, ac mae yna dystiolaeth bod hynny’n dal i ddigwydd, pan oeddem ni’n ceisio fel pwyllgor cael tystiolaeth pan oedd Deddf Cymru yn mynd rhagddi. Felly, rwy’n cefnogi’n gryf y bwriad sydd wedi cael ei amlinellu fan hyn gan y Cadeirydd eisoes.
Ond a fyddai’r Cadeirydd yn ei ymateb hefyd yn cytuno â fi fod, yn y cwestiwn yma o gydgysylltu rhwng gwahanol senedd-dai yn yr ynysoedd hyn, gryn dipyn o waith eto i’w wneud? Rydym ni wedi sefydlu’r ymchwiliad yma, ond rydym ni’n dechrau mewn lle bregus a gwan yn nhermau lle’r Cynulliad hwn yn y ffordd mae’r ynysoedd hyn yn cael eu rheoli. Felly, mae yna jobyn o waith i’w wneud a buaswn i’n edrych am ragor o sylwadau gan y Cadeirydd i’r perwyl yna.
Hefyd, gwnaeth o grybwyll y ffordd rydym ni’n mynd i ymgysylltu efo dinasyddion, ac mae hynny wedi digwydd eisoes. Rydw i’n edrych ymlaen at ragor o gyfarfodydd fel yna, achos, ar ddiwedd y dydd—buaswn i hefyd yn gobeithio buasai’r Cadeirydd yn gallu cytuno â mi bod yna waith i’w wneud yn fan hyn hefyd i esbonio, mewn ffyrdd weddol hawdd, achos yn y pwyllgor yma rydym ni’n aml yn gallu ymdrin â phethau sydd yn gallu edrych yn anodd ac yn sych. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae hefyd eisiau gwneud pethau yn weddol hawdd fel bod ein dinasyddion ni, a rhai ohonom ni, yn gallu deall beth sydd yn mynd ymlaen. Hynny yw, mae yna bolisïau gwahanol yng Nghymru nawr o’u cymharu â Lloegr, yr Alban ac ati. Mae angen hefyd egluro’n glir i’n dinasyddion beth yn union sydd wedi cael ei ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli, goblygiadau Deddf Cymru, sydd yn dod i mewn, ac, wrth gwrs, y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad. Nawr, yn amlwg, rŷm ni yn fan hyn yn gwybod y gwahaniaeth, ond nid yw o’n amlwg allan fanna, ac yn aml iawn nid yw e’n amlwg i’r sawl sy’n ysgrifennu penawdau yn ein papurau newydd chwaith—y gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth yn y lle yma a’r Cynulliad ei hunan fel sefydliad.
I orffen, wedi crybwyll dau ffigwr mewn hanes, sef Dewi Sant a Hywel Dda, roeddwn i’n mynd i grybwyll Brenin Harri VIII hefyd, achos, cyn i bobl ddweud fy mod i’n sôn am bobl sydd â dim perthnasedd i’n deddfau, yn anffodus, mae Brenin Harri VIII yn dal efo perthnasedd na ddylai fod yna, buaswn i’n ei ddadlau, i’n deddfau ni heddiw drwy’r gorddefnydd, buaswn i’n dweud, o bwerau Harri VIII, sydd yn dal i ddigwydd pum canrif ar ôl i’r brenin yna adael y blaned yma. Felly, buaswn i hefyd yn licio gweld y Cadeirydd yn ymestyn y ddadl ynglŷn â’r defnydd o bwerau Harri VIII yn y lle yma, a’r ffordd ymlaen er mwyn lleihau’r defnydd yna ohonyn nhw. Diolch yn fawr.
Diolch, Dai. Os caf ddechrau ar y diwedd gydag un rhaglyw a symud ymlaen at un arall, yna, yn sicr gyda phwerau Harri’r VIII, rydym yn gyson—ac yn unol â’r pwyllgor a’n rhagflaenodd—yn ceisio gwthio’n ôl ar y defnydd o bwerau Harri VIII. Mae’n ddeialog gyson gyda Gweinidogion a chyda’r Llywodraeth, ond mae ein hegwyddorion yn gadarn iawn ar y pwyllgor am resymau da iawn, sef ein bod am leihau—. Rydym yn cydnabod y bydd yna adegau pan allai pwerau Harri VIII fod yn briodol mewn rhai meysydd cyfyngedig, ond rydym yn ceisio gwthio’n ôl yn gyson. Mae’n rhaid i ni ddal i fynd ar y daith honno, rwy’n meddwl, a chael y ddeialog honno gyda’r Gweinidogion ar hynny. Mae gennym ddeialog eithaf diddorol oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, mae yna arferion da yn bodoli. Gwelwn mewn rhai meysydd deddfwriaeth, a chyda rhai Gweinidogion, eu bod yn ceisio’n galed iawn i leihau’r defnydd o bwerau Harri VIII, ac mewn mannau eraill, mae’n datod ychydig bach. Rydym yn mynd i orfod dal ati i weithio ar hynny. Ond rwy’n credu mai’r peth pwysig, yn rhyfedd ddigon, o ran y ffordd y gwelwn y lle hwn yn gweithio, a thryloywder y lle hwn, yw ein bod yn cael y trafodaethau hyn yn deg ac yn gyfeillgar. Ond bydd yna bwyntiau, rwy’n meddwl, pan fydd ein barn fel y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Gweinidogion yn wahanol, ond byddwn yn parhau i ddadlau, oherwydd credaf fod yna bwynt da o egwyddor na ddylem ddibynnu ar bwerau Harri’r VIII neu’n ceisio osgoi eu defnydd lle bynnag y bo modd. Rwy’n siŵr y byddai cyn-Gadeirydd y pwyllgor yn cytuno â hynny hefyd
I droi am funud at Hywel Dda, fel yr oedd Dai yn gywir i nodi, ef oedd y deddfwr a’r arloeswr blaengar gwreiddiol. Weithiau rydym yn anghofio yng Nghymru y gallwn edrych yn ôl yn bell iawn i ble y dechreuasom ar broses ddeddfwriaethol a sut y dysgasom rai o’r gwersi hynny, a’u cyflwyno yn awr o bosibl o ran y modd yr ymdriniwn â’r materion hynny, megis materion cydraddoldeb. Ni oedd y genedl a arloesodd ar hynny.
Soniodd Dai fod taer angen i ni wella’r gwaith sefydliadol. Cytunaf yn llwyr a buaswn yn argymell i unrhyw un fynd yn ôl ac edrych ar sesiwn tystiolaeth yr Arglwydd Murphy. Roedd yr Arglwydd Murphy, wrth gwrs, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddwywaith, a hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon a llawer o rolau eraill yn y Llywodraeth. Mae ganddo bedigri hir, ac mae ef ei hun wedi bod ar daith, ond un o’r pethau diddorol y cyfeiriodd ato oedd yr anhawster weithiau i berswadio cydweithwyr yn Whitehall, sydd hefyd â phrofiad hir, ynglŷn â ble roeddem ar y daith ddatganoli ac yn y blaen. Felly, buaswn yn argymell hynny.
Ond mae arferion da i’w cael. Rydym yn gweld arferion da. Rydym yn gweld Gweinidogion a phwyllgorau’n gweithio’n dda iawn o ddydd i ddydd, hyd yn oed ar faterion trawsffiniol. Mewn ardaloedd eraill nid yw mor dda. Yr hyn sy’n rhaid i ni geisio ei sefydlu yw hyn: beth yw’r arferion gorau a sut y sicrhawn fod yr arferion gorau hynny’n norm pendant ym mhob rhan o’r berthynas rhwng San Steffan a Chymru? Cytunaf yn llwyr pan ddywed fod yna lawer o waith i’w wneud. Oes, mae hynny’n wir. Dyna pam y credaf ei bod yn foment briodol yma, ar ôl i ni orffen â’r Ddeddf Cymru newydd, i fyfyrio a gweld hefyd sut y mae hyn yn edrych ar gyfer y dyfodol. Pam y mae hynny’n arbennig o briodol? Hefyd oherwydd bod angen i ni edrych yn awr, gan fod gennym y sefyllfa hon lle rydym mewn cyfnod o bontio wrth i ni edrych ar erthygl 50 a gadael yr Undeb Ewropeaidd: rhaid i’r mecanweithiau a’r cysylltiadau hyn weithredu’n rhagorol. Felly, rwy’n meddwl y gallwn ddarparu gwasanaeth nid yn unig i Gymru ond hefyd i Lywodraeth y DU ar yr un pryd—a’n cymheiriaid datganoledig.
Yn olaf, fe soniodd am ymgysylltiad dinasyddion. Cytunaf yn llwyr—corff anferth o waith yma i’w wneud i ni. O bob un o’r pwyllgorau yn ôl pob tebyg, rwy’n meddwl, gan nad ydym yn bwyllgor thematig, gan nad ydym yn rhywbeth sydd, yn aml iawn, yn hawdd i’w drosi i brofiadau fy nghymdogion ac yn y blaen—nid yw’n iechyd, nid yw’n ofal cymdeithasol, nid yw’n fysiau, nid yw’n beth bynnag—ac eto, os nad oes gennym y prosesau cywir ar waith, gall llawer o’r gwaith da hwn yn y meysydd thematig hynny chwalu’n ddarnau. Felly, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd. Hoffwn dalu teyrnged i’n tîm sy’n sail i’n gwaith fel aelodau’r pwyllgor—y clercod, yr ymchwilwyr, y bobl gyfathrebu—am eu hymdrechion yn ceisio dod o hyd i’r ffyrdd arloesol hynny, megis panel dinasyddion, lle y gallwn fwrw ymlaen a gweithio arno i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn—. Fel y dywedir yn aml, nid yw pobl yn siarad am y pethau cyfansoddiadol hyn yn y Dog and Duck, lle bynnag y mae’r Dog and Duck ffuglennol hwnnw. Yr hyn sydd angen i ni ddod o hyd iddynt yw’r ffyrdd clyfar y gall dinasyddion ymgysylltu â hyn, gan ei fod o ddifrif yn bwysig. Mae angen i ni gael hyn yn iawn. Felly, Dai, diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny.
Ac yn olaf ac yn fyr iawn—ac mae hynny’n golygu yn fyr gan y ddau ohonoch—David Rowlands.
Rwy’n arbennig o hoff o syniad y Cadeirydd o banel yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd, ond wrth gwrs, bydd cryfder y panel yn ei gyfansoddiad. Byddai’n niweidiol iawn pe bai rhywfaint o duedd wleidyddol yn perthyn iddo. Felly, a allai’r Cadeirydd roi unrhyw syniad inni sut y mae’n teimlo y câi’r panel hwnnw ei ddewis mewn gwirionedd?
Gallaf, yn wir. David, diolch yn fawr iawn i chi. Iawn, yn fyr iawn, rydym eisoes wedi treialu hyn, ac mae ein tîm sy’n ein cefnogi wedi dwyn pobl ynghyd sydd â gwahanol brofiadau o’r sector cymunedol, y sector preifat, o wahanol rannau o Gymru, grwpiau oedran gwahanol, gwahanol rywiau—maent wedi ceisio arbrofi gyda chymysgedd o bobl ac nid yr arferol. Pobl nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu ydynt mewn gwirionedd.
Nawr, rwy’n credu bod yna waith i’w wneud ar hynny, ac os oes ganddo syniadau—. Ond yr hyn na ddylai fod yw panel o bwysigion. Panel dinasyddion yw hwn. Felly, rydym yn ceisio dod o hyd i bobl allan yno nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â ni i ddod ymlaen a dweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn gywir ac yn anghywir. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Welwch chi—mae modd ei wneud pan fyddwn yn eich atgoffa’n garedig, onid oes? Felly, diolch yn fawr iawn i chi.