Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 1 Mawrth 2017.
Rwyf innau yn mynd i achub ar y cyfle hefyd, rwy’n meddwl, i ddathlu ein llwyddiannau ni gan ei bod hi’n ddydd cenedlaethol arnom ni heddiw, a chymryd ysbrydoliaeth, fel rydym wedi ei glywed, o’n hanes ni wrth fynd i’r afael â nifer o’n heriau ni heddiw. Mi oedd yr Aelod dros Gastell-nedd yn sôn am ein hasedau ni. Wel, un o’r asedau pennaf sydd gyda ni fel cenedl, wrth gwrs, yw ein pobl ni, ac mae buddsoddi ynddyn nhw, er enghraifft drwy’r gyfundrefn addysg, yn rhywbeth pwysig i ni ei wneud, wrth gwrs, ond yn rhywbeth y mae gennym ni draddodiad anrhydeddus o’i wneud hefyd. Rydym yn meddu ar hanes o arloesedd a mentergarwch yn y maes addysg—yn gymaint, fe fyddwn i’n ei ddadlau, ag unrhyw sector arall a fydd yn cael ei drafod heddiw.
Nid oes ond rhaid dweud yr enw Griffith Jones, Llanddowror, yn ôl ar gychwyn y ddeunawfed ganrif, wrth gwrs, i ddeall ac i werthfawrogi'r arloesedd hynny—Griffith Jones a’i ysgolion cylchynol a oedd yn dysgu plant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r hwyr, gyda’r rheini yn mynd yn eu blaenau wedyn i ddysgu eraill, a’r elfen raeadru yna o ddysgu yn y diwedd yn cyrraedd pwynt lle'r oedd yna 0.25 miliwn o bobl erbyn hynny wedi dod yn llythrennog, allan o boblogaeth o lai na 0.5 miliwn. Felly, roedd mwy na hanner y boblogaeth wedi dysgu darllen. Ac erbyn marwolaeth Griffith Jones yn 1761, mi oedd Cymru yn mwynhau un o lefelau llythrennedd uchaf y byd, cymaint felly nes i’r Ymherodres Catrin Fawr o Rwsia yrru comisiynydd i Gymru i ddysgu gwersi, ac i weld a oedd modd addasu’r system ar gyfer Rwsia. Mae hynny efallai yn cyfateb nid i ni yn gofyn i’r OECD ddod i ddweud wrthym ni os ydym ni ar y llwybr iawn, ond i Gymru ddweud wrth yr OECD beth ddylen nhw fod yn ei ddweud wrth y gwledydd eraill. Dyna le rydym ni eisiau ei gyrraedd, ac, wrth gwrs, dyna le rydym ni wedi bod, yn y bennod benodol yna, beth bynnag.
Yn 1889, wedyn, a’r Welsh Intermediate Education Act yn cael ei phasio—deddfwriaeth wedi ei chyflwyno gan Aelodau Cymreig yn San Steffan a oedd yn chwyldroadol, oherwydd roedd yn golygu bod plant, waeth beth oedd eu cefndir economaidd nhw na’u gallu academaidd nhw, yn gallu mynychu ysgol uwchradd am y tro cyntaf. Mi fu’n rhaid aros rhyw 10 mlynedd arall cyn cyflwyno deddfwriaeth gyffelyb yn Lloegr. Roedd llwyddiant y Ddeddf a’r ‘county schools’, wrth gwrs, yn amlwg, gyda’r hanesydd K.O. Morgan—yr Arglwydd Morgan—yn nodi:
‘By the First World War, Wales was covered with a network of a hundred “county” secondary schools, and had a secondary education system notably in advance of that of England.’
Roedd llwyddiant y Ddeddf hefyd i’w weld yn y ffaith mai prin iawn oedd ysgolion uwchradd yn Lloegr, hyd yn oed, heb athro neu athrawes o Gymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, adeg pan oedd Cymru yn allforio athrawon. ‘A nation of teachers and preachers’ oedd y disgrifiad yn y cyfnod, a buasai hi ddim yn ffôl o beth petasem ni’n llwyddo i atgynhyrchu hynny heddiw.
Ond, wrth gwrs, mae’r hanes erbyn hyn yn wahanol. Dirywiad rydym wedi ei weld, yn anffodus, nid y cynnydd rwy’n siŵr y byddai bob un ohonom ni yn awyddus i’w weld yn digwydd. Rydym wedi gweld canlyniadau PISA yn ddiweddar. Mae adroddiad blynyddol Estyn hefyd yn tynnu sylw at y positif—mae’n rhaid cydnabod hynny: yn barnu deilliannau 16 y cant o ysgolion uwchradd Cymru yn rhagorol, yn uwch nag unrhyw flwyddyn ers 2010. Ond, wrth gwrs, roedd canran yr ysgolion anfoddhaol hefyd wedi cynyddu i 14 y cant.
Nawr, mae hanes datblygiad addysg yng Nghymru yn un diddorol, wrth gwrs, ac yn un y dylem ni ymfalchïo ynddo fe, ond mae’n rhaid inni gydnabod a gobeithio a hyderu ein bod ni ar drothwy cyfnod pwysig iawn yn natblygiad system addysg Cymru heddiw, gyda nifer fawr o gynlluniau ar waith, wrth gwrs, i ddiwygio'r system addysg, fel rŷm ni’n ei wybod ac fel rŷm ni wedi ei drafod fan hyn ar sawl achlysur. Nid yw hi’n anochel bod Cymru yn meddu ar system sydd yn cael ei gweld fel un sydd y tu ôl i nifer o wledydd eraill. Rŷm ni wedi arwain y ffordd o’r blaen ac fe allwn ni wneud hynny eto. Mi fydd angen, wrth gwrs, sicrhau bod gan y Llywodraeth weledigaeth glir a ffocws pendant ar ddelifro ar y potensial sydd gennym ni, ac rwyf i yn un sy’n cefnogi’r llwybr y mae’r Llywodraeth yn mynd ar ei hyd ar hyn o bryd, er efallai bod yna anghytundeb ynglŷn â sut, efallai, y mae ambell elfen yn mynd i gael ei chyflwyno a’i hamseru a rhyw bethau felly. Ond, yn ei hanfod, rydw i’n hyderus, yn symud i’r cyfeiriad cywir.
Mi ganmolodd adroddiad yr OECD, wrth gwrs, y symudiad i ffwrdd o gyflwyno digwyddiadau ar hap—digwyddiadau digyswllt, efallai. Beth sydd angen ei wneud nawr, wrth gwrs, yw atgyfnerthu’r weledigaeth ar gyfer y tymor hir, i ddyfalbarhau ar hyd y trywydd rŷm ni eisoes wedi cychwyn arno fe. Ond wrth wneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid diogelu bod y diwygiadau sydd ar y gweill yn cael eu gweithredu yn effeithiol, wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod pawb—o’r athrawon yn yr ystafell ddosbarth i’r consortia ac awdurdodau addysg a phawb arall—yn deall ble rŷm ni’n mynd, yn prynu i mewn i ble rŷm ni’n mynd, bod pawb yn glir am ei rôl yn y cyd-destun hynny, eu bod nhw’n gwybod sut y maen nhw’n cyfrannu at y prosiect, a sut mae’r holl waith, wedyn, yn dod at ei gilydd hefyd. Ond o wneud hynny, fe allwn ni fod yn hyderus y bydd pawb, wedyn, yn cyd-dynnu ac y byddwn ni yn cael y maen i’r wal.