6. 5. Dadl Plaid Cymru: Ffyniant Economaidd, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Addysg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:41, 1 Mawrth 2017

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Gallaf gadarnhau o'r dechrau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn.

Wrth gwrs, rŷm ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cydnabod bod Cymru yn wynebu nifer o heriau pan ddaw at ein gwasanaeth iechyd, ein system addysg a'n heconomi, a byddaf i’n canolbwyntio fy nghyfraniad i ar y dyfodol.

Fel mae ail bwynt y cynnig yn dweud, mae perfformiad yn y meysydd polisi hyn yn dangos yn glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy creadigol a chydweithredol o ran datblygu polisïau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Os ydym o ddifri ynghylch trawsnewid yr economi, mae'n rhaid inni gefnogi ein busnesau bach sydd yn asgwrn cefn i’n heconomi, a rhaid inni fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith allweddol.

Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod potensial busnesau bach a chanolig i dyfu economi Cymru a chreu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer mwy o fenter yma yng Nghymru. Dim ond yn ddiweddar, mae rhai busnesau wedi cael eu bwrw’n ofnadwy oherwydd cynnydd mewn trethi busnes, ac mae angen i fusnesau wybod a ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn gymwys i gael rhywfaint o'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn mynd i edrych ar y system trethi busnes yn y dyfodol, ond gall y Llywodraeth gymryd camau nawr ar y mater hwn. Gallai, er enghraifft, rannu'r lluosydd ardrethi busnes er mwyn rhoi chwarae teg i fusnesau bach o gymharu â busnesau mwy.

Mae hefyd angen cefnogaeth ar fentrau bach a chanolig o ran cael gafael ar gyllid ac rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull rhanbarthol i alluogi busnesau i gael mynediad i gyllid er mwyn adlewyrchu eu heconomïau lleol.

Mae'n rhaid inni feddwl yn llawer mwy creadigol os ydym ni’n mynd i drawsnewid yr economi, a byddai creu cyfres o fanciau'r stryd fawr rhanbarthol ledled Cymru yn sicr o leoleiddio mynediad at gyllid ar gyfer busnesau bach. Gallai cynigion fel hyn gael eu cyflwyno yn weddol gyflym, a byddai hynny'n cael effaith bositif ar yr economi leol a chenedlaethol yng Nghymru, ac rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar y mathau hyn o bolisïau a dod o hyd i ffordd well o gefnogi busnesau bach ledled Cymru.

Wrth gwrs, mae yna hefyd broblemau sylfaenol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu’r polisi o un maint sydd yn ffitio i bawb tuag at ddarparu gwasanaethau iechyd ledled Cymru, sy'n methu cleifion Cymru. Rhaid i’r Llywodraeth symud i ffwrdd o agenda ganoli ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd; mae angen inni weld polisïau sy'n diogelu gwasanaethau lleol ac mae angen inni weld gwasanaethau cryfach ar draws ysbytai yng Nghymru.

Nid yw gwasanaethau mwy a mwy canolog o reidrwydd yn golygu gwell gwasanaethau pan ddaw at gyflenwi angen gofal iechyd ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wrthdroi'r duedd hon sy'n peri pryder a dechrau datblygu gwasanaethau lleol sy’n fwy integredig o fewn ein cymunedau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ehangu rôl ysbytai cymunedol ar draws Cymru er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar ein hunedau ysbyty sydd eisoes o dan straen enfawr. Rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd fod yn fwy atebol i'r rhai y mae'n eu gwasanaethu. Yn fy marn i, byddai hyn yn arwain at welliannau drwy roi llais cleifion wrth wraidd penderfyniadau y tu mewn i’r gwasanaeth iechyd. Yn wir, byddai sefydlu atebolrwydd lleol a throsglwyddo penderfyniadau dros wasanaethau iechyd oddi wrth lywodraeth ganolog ym Mae Caerdydd a rhoi’r awdurdod hwnnw yn ôl i ddwylo cymunedau lleol, yn fy marn i, yn gwella ein gwasanaethau iechyd lleol.

O ran ein system addysg, rwy’n siŵr bod yr holl Aelodau yn y Siambr yn cytuno bod ein plant yn haeddu gwell. Rwy’n gwerthfawrogi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cychwyn ar ystod eang o fesurau mewn perthynas â’r system addysg yng Nghymru, ond fel y mae, mae’r ffigurau’n dangos nad yw Cymru, yn syml, lle yr hoffem iddi fod o ran meincnodau rhyngwladol.

Wrth symud ymlaen, rhaid cael mwy o uchelgais ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru ac y mae'n rhaid eu pasio ymlaen i athrawon ledled Cymru. Dangosodd adroddiad diweddar Estyn fod diffyg enfawr o ran arweinyddiaeth gref, sy'n dal athrawon a phlant yn ôl rhag cyflawni eu potensial. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar wella safonau addysgu a datblygu strategaeth i dargedu a datblygu materion arweinyddiaeth yn y system addysg.

Fel rhan o ymgyrch i rymuso athrawon, rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu fformiwla genedlaethol gydag arian yn cael ei dargedu'n uniongyrchol at ysgolion i roi'r holl ddysgwyr, boed hwy mewn lleoliadau gwledig neu drefol, ar sail fwy cyfartal. Trwy wneud hyn, fe fydd yn rhyddhau mwy o adnoddau i mewn i'r ystafell ddosbarth. Byddai ariannu ysgolion yn uniongyrchol mewn gwirionedd yn gwthio grym i lawr i'r athrawon a phenaethiaid sy'n gwybod beth sydd orau ar gyfer eu hysgolion, gan roi mwy o hyblygrwydd a rheolaeth i athrawon dros flaenoriaethau eu hysgolion. A rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r offer i ysgolion i fod yn fwy creadigol wrth weithredu'r cwricwlwm. Er enghraifft, gallai wneud ysgolion yn hybiau entrepreneuraidd drwy sefydlu mentrau cymdeithasol ym mhob ysgol i helpu i wella sgiliau busnes cenedlaethau'r dyfodol.

Wrth gloi, Lywydd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy arloesol a chreadigol er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Ni fydd parhau gyda'r un hen ddull yn gweld gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd, na’n system addysg ac ni fydd yn tyfu ein heconomi. Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu a bod yn llawer mwy arloesol.