Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 1 Mawrth 2017.
Mae hefyd yn bleser i minnau gymryd rhan yn y ddadl yma ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant, yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn cofio marwolaeth Dewi ar y diwrnod yma yn y flwyddyn 589—rhyw 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae yna hen, hen hanes i’r genedl yma sydd yn dal i gael ei wireddu trwy ein hiaith a’n celfyddyd a’n ffydd. Ac, ie, mae’n ddiwrnod o falchder cenedlaethol ac rwy’n mynd i ddilyn yr un un trywydd. Roeddwn i wedi’ch atgoffa o rai o bileri ein hanes yn y ddadl ddiwethaf, wedyn man y man imi gario ymlaen lle’r oeddwn i wedi gorffen yn y cyfraniad diwethaf.
Ond yn benodol felly yn y maes iechyd, lawr y blynyddoedd cyn y gwasanaeth iechyd, roedd Cymru wedi arloesi yn y maes: Meddygon Myddfai yn arloesi yn eu maes nôl yn y canol oesoedd. Pentref bach weddol ddi-nod ydy Myddfai y dyddiau hyn, ond sawl cant o flynyddoedd yn ôl, roedd yn arwain y byd meddygol yn yr ynysoedd hyn. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r hanes yna wedi mynd ar goll, ond roedd yna arloesi mawr yn digwydd rhai cannoedd o flynyddoedd yn ôl yn y byd meddygol.
Ychydig bach yn nes ymlaen—rhyw ganrif a hanner yn ôl—rydym yn gweld Hugh Owen Thomas, ac wedyn ei nai, Robert Jones, yn arloesi ym myd llawdriniaeth esgyrn, ac, yn wir, Robert Jones yn cael ei gydnabod y dyddiau hyn yn fyd-eang fel tad yr arbenigedd o ‘orthopaedics’. Fo a wnaeth lunio ‘orthopaedics’ yn y lle cyntaf ac mae’n cael ei gydnabod ar draws y byd fel arweinydd a sylfaenydd ‘orthopaedics’.
Wrth gwrs, rydym ni wedi clywed yr hanes am greu’r gwasanaeth iechyd ac rydym yn parhau yn hynod falch o gyfraniad Cymru i’r gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, i droi ymlaen ychydig bach eto, ac yn y flwyddyn 2007, enillodd yr Athro Syr Martin Evans o Brifysgol Caerdydd wobr Nobel mewn meddygaeth ar sail ei waith ymchwil arloesol ym maes celloedd boncyff a DNA.
Felly, mae’n anodd, weithiau, i bobl gyffredin yn ein gwlad i feddwl, ‘Wel, beth mae Cymru erioed wedi gwneud? Nid wyf yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen. Pwy sydd wedi arloesi a phwy sydd wedi bod yn hyderus ac yn llwyddiannus?’ Wel, mae yna res, a gallwn i gario ymlaen, ond yn naturiol, ni allaf fod yma drwy’r prynhawn, felly mae’r rhestru yn mynd i stopio yn fanna. Ond, mae’n ddigon i nodi bod yna ddatblygiadau cyffrous iawn, iawn yn mynd ymlaen y dyddiau hyn ym myd meddygaeth, yn ein prifysgolion ac yn ein hysgolion meddygol. Mae ein hysgolion meddygol ni—wrth gwrs, mae gennym ni ddwy erbyn nawr yng Nghaerdydd ac yn Abertawe—yn cynhyrchu meddygon ifanc, disglair. Fe allen nhw gynhyrchu mwy, yn naturiol. Mae yna, ar hyn o bryd, lai nag 20 y cant o fyfyrwyr meddygol ysgolion meddygol Cymru yn dod o Gymru. Nid oes gwlad arall yn gweithredu fel yna. Mae dros hanner myfyrwyr meddygol ysgolion meddygol yr Alban yn dod o’r Alban a dros 80 y cant o fyfyrwyr meddygol ysgolion meddygol Lloegr yn dod o Loegr, ac eto rydym ni’n gweithredu ar ryw lefel fel 12 y cant o fyfyrwyr meddygol Caerdydd ac Abertawe yn dod o Gymru. Wel, rydym ni i fod yn cynhyrchu meddygon am y dyfodol, ond nid ydym yn cynhyrchu digon ohonyn nhw ac, yn naturiol, dyna hefyd pam mae eisiau ysgol feddygol newydd ym Mangor—i bentyrru mwy o feddygon ifanc, disglair i’n gwlad. Ie, rydym ni yn falch o’r gwasanaeth iechyd, ond mae’r system o dan straen anferthol. Mae angen cyflogi mwy o feddygon a nyrsys ac ati, mae angen hyfforddi mwy ohonyn nhw yn y lle cyntaf, ac, wrth gwrs, mae angen darparu y dechnoleg ddiagnostig cywrain yma sydd ar gael—[Torri ar draws.]—ond mae e’n enbydus o ddrud.
Wrth gwrs, mae angen gweledigaeth amgen o wasanaeth iechyd efo’i ffocws yn y gymuned—[Torri ar draws.] Ie, efo’r gymuned sydd wedi ei chysylltu yn ddigidol. A man y man bod y Gweinidog wrthi yn arloesi yn y maes yna hefyd. [Chwerthin.] Sy’n ein hatgoffa ni ein bod ni’n gallu gwneud pethau mawr yn ein gwasanaeth iechyd ni yn ddigidol hefyd. Rwy’n falch i’r Gweinidog ein hatgoffa ni o hynny, achos mae hynny’n helpu gofal cynradd hefyd. Ac mae eisiau gweld mwy o arbenigwyr yn ein hysbytai ni yn dod i’r gymuned i weithio, yn torri’r barau yma i lawr rhwng ysbytai a gofal cynradd, a—ydy, mae wedi cael ei ddweud sawl tro—iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio yn agos.
I orffen, felly, rydym ni yn falch iawn o’n gwasanaeth iechyd. Rydym ni’n falch iawn o’r holl arloesi sydd wedi digwydd yn y gorffennol, sydd yn digwydd ar hyn o bryd, ac mi fydd yn digwydd yn y dyfodol. Rydym ni’n benderfynol o gadw ein gwasanaeth iechyd yn gynhwysfawr, yn gyhoeddus yma yng Nghymru. Ond, mae angen newidiadau i ddarparu y gwasanaeth gorau i’n pobl, gan ddefnyddio y talent disglair sydd gyda ni ar gael. Diolch yn fawr.