Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Mawrth 2017.
Wrth gwrs bod achos dyngarol dros gymorth ac nid oes neb yn erbyn hynny, ond mae llawer o'n cyllideb cymorth yn mynd i wledydd sy'n gwario symiau enfawr o arian ar brosiectau na fyddem ni’n eu hystyried yn ddyngarol am eiliad. Er enghraifft, rydym ni’n cynyddu ein cymorth i Bacistan gan £100 miliwn eleni i bron i £450 miliwn y flwyddyn. Mae Pacistan, eleni, yn cynyddu ei chyllideb amddiffyn gan £635 miliwn i £6.7 biliwn. Maen nhw’n gwario llawer mwy y pen ar amddiffyn nag yr ydym ni’n ei wneud yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddyn nhw raglen niwclear a rhaglen ofod hefyd. Felly, yr hyn yr ydym ni’n ei wneud i bob pwrpas trwy gynyddu faint o gymorth yr ydym ni'n ei roi i Bacistan yw ariannu eu cyllidebau milwrol, gofod a niwclear yn anuniongyrchol.