Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 7 Mawrth 2017.
Wel, byddai'n ostyngiad i gyfanswm y PM10s yn yr atmosffer, a PM2.5s hefyd o bosibl. Os edrychwn ni ar leihau allyriadau—soniais am yr ymgynghoriad yn gynharach a bydd ein hymateb i'r ymgynghoriad hwnnw yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Beth yw ein cyfraniad? Disgwyl i fetro de Cymru, disgwyl i’r metro yn y gogledd-ddwyrain gynnig dewis arall yn hytrach na defnyddio car—sy’n golygu gostyngiad i gyfanswm y nwyon llosg sy’n dod allan o geir—i wneud yn siŵr bod gan bobl y dewis arall hwnnw, gan hyrwyddo’r Ddeddf teithio llesol fel bod mwy o bobl yn gallu beicio hefyd—unwaith eto, gan beidio â defnyddio ceir.
Y broblem, wrth gwrs, yw bod y newidiadau newydd i ardollau ecséis cerbydau sy’n mynd i gael eu cyflwyno, os cofiaf yn iawn, ar ôl y flwyddyn gyntaf o fodolaeth car, pob car, waeth beth yw ei allyriadau, yn talu'r un dreth ffordd. Nawr, bu gennym ni system ers blynyddoedd lle mae’r ceir hynny sy’n llygru fwyaf yn talu'r mwyaf. Nawr rydym ni’n symud i system lle mae'n ffi unffurf. Nid wyf yn credu bod hynny'n iawn. Gallaf ddeall bod yn rhaid i Lywodraeth y DU newid y system, fel arall ni fydd braidd neb yn talu treth ffordd yn y pen draw—rwy’n deall hynny. Ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn i symud i system lle, i bob pwrpas, os oes gennych chi gar â llawer iawn o allyriadau, y byddwch yn talu’r un fath â rhywun y mae ei gar yn ysgafn dros ben o ran allyriadau. Ni fydd hynny’n helpu ansawdd aer yng Nghymru.