Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 7 Mawrth 2017.
A wnewch chi gytuno, fel Prif Weinidog, i gynnull uwchgynhadledd ar y mater penodol hwn o’r holl gyrff cyhoeddus â buddiant, fel y gellir cael dull cydgysylltiedig ar ei gyfer, ar y sail ein bod ni, yn gyffredinol, ar draws y pleidiau eisiau gweld gwelliannau? Pan fo gennych chi fater iechyd y cyhoedd sy'n cymryd 2,000 o fywydau y flwyddyn yng Nghymru—heb sôn am rannau eraill o’r Deyrnas Unedig—dylid ystyried hynny, byddwn yn awgrymu, fel y botwm cyntaf i’w wasgu ar eich rhestr o flaenoriaethau. Mae’n ymddangos bod elfen o wahaniaeth pan gaiff ei gyflwyno mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, ac mae angen ei ganoli rhywfaint a chydgysylltu yma. A wnewch chi gytuno i gynnal uwchgynhadledd, i wneud yn siŵr y gellir gwneud cynnydd ar yr eitem agenda hon, fel y gallwn weld gwelliannau gwirioneddol ledled Cymru, ond yn bwysig, gwelliannau i wneud yn siŵr nad ydym yn parhau i weld nifer y bobl sy'n marw oherwydd ansawdd aer gwael yn cynyddu yng Nghymru?