Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 7 Mawrth 2017.
Un o'r materion sy'n broblem gynyddol hefyd, wrth gwrs, yw ceir sy’n segura mewn tagfeydd traffig—yn gadael eu hinjans ymlaen—ac mae hynny'n creu ardaloedd penodol o ansawdd aer arbennig o isel. Ceir sawl ffordd o ymdrin â hynny. Un yw gwneud yn siŵr bod y rhwystrau’n cael eu gwaredu. Mae hefyd yn golygu, wrth gwrs, ein bod ni’n edrych ar ffyrdd o hyrwyddo mwy o hybridau a cheir trydan yn y dyfodol, a cheir nifer o ffyrdd y gellir gwneud hynny. Yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd, byddwn yn ceisio bod mor gynhwysol â phosibl yn ein dull. Mae'n rhaid i ni wneud hynny, wrth gwrs, gan weithio gyda llywodraeth leol hefyd, fel y prif fonitoriaid o ansawdd aer lleol, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i wella'r aer y mae pobl Cymru yn ei anadlu.