Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 7 Mawrth 2017.
Brif Weinidog, ceir sylfaen dystiolaeth gref sy'n awgrymu bod myfyrwyr meddygol yn fwy tebygol o fod eisiau ymarfer yn yr hirdymor yn y lle maen nhw wedi hyfforddi ynddo. Felly, rwy’n croesawu menter bwrdd iechyd Cwm Taf, lle, mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, mae 60 o fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn wedi cael cyflawni rhan gynnar eu hyfforddiant mewn meddygfeydd teulu yng nghymoedd y de. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod rhoi’r amlygiad hwn i ymarfer cyffredinol i fyfyrwyr meddygol yn gynnar yn hanfodol i’w hyrwyddo fel dewis gyrfaol, a sut arall allwn ni hyrwyddo'r Cymoedd fel lle da i feddygon teulu weithio ynddo?