Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 7 Mawrth 2017.
Wel, mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, sy’n hynod bwysig, fel mae’r Aelod yn ei ddweud. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar glwstwr y Rhondda yng Nghwm Taf, mae hwnnw wedi bod yn arbennig o weithgar o ran recriwtio. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod myfyriwr yn mynd i rywle ac yn cael profiad cadarnhaol. Dyna pam mae’n hynod bwysig ein bod ni’n gallu gwneud hynny. Os edrychwn ni ar glwstwr y Rhondda fel enghraifft: mae ganddyn nhw swyddog cyfathrebu clwstwr i ddatblygu enw da'r Rhondda fel lle gwych i weithio ynddo, maen nhw wedi datblygu gwefan Rhondda Docs, sy'n disgrifio'r ffordd o fyw a’r yrfa sydd ar gael yn y Rhondda, ac maen nhw wedi datblygu arolwg a dadansoddiad recriwtio a chadw staff, a fydd yn rhan o gynllun cyflawni’r clwstwr yn y flwyddyn ariannol newydd. Dyna un enghraifft y gall clystyrau eraill ei defnyddio neu ei haddasu er mwyn gwneud yn siŵr, pan fydd myfyrwyr yn cyflawni eu hyfforddiant meddygon teulu yn ardaloedd y Cymoedd, eu bod yn teimlo eu bod yn dod i le sy’n flaengar, sydd â digon o adnoddau ac sydd â meddygon teulu sy'n ymroddedig i'w cymuned—ac o ran yr holl elfennau hynny, mae'r clwstwr yn cyflawni’r rhwymedigaethau hynny.