Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwy’n cydnabod yr hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud i gychwyn am dechnoleg newydd, ond nid wyf yn credu bod y driniaeth well yr ydych chi’n cyfeirio ati yn fater syml o ddamwain, na’i bod yn anochel. Mae’r rheini’n ddewisiadau bwriadol y mae ein clinigwyr yn eu gwneud. Ac mewn gwirionedd, mae dod â’r cynllun cyflawni ar gyfer strôc a'r grŵp gweithredu at ei gilydd wedi helpu i ddatblygu’r dewisiadau hynny. Ceir llawer mwy o drafod ledled Cymru a chymorth a herio defnyddiol gan gymheiriaid ynghylch yr hyn sy’n fodelau gofal gwell—o ran gofal ar unwaith, ond hefyd yn yr ystyr o sut y gallai ac y dylai adsefydlu edrych. Mae hynny hefyd yn gorfod ysgogi’r drafodaeth ar ad-drefnu gwasanaethau strôc. Hoffwn i’r drafodaeth honno gael ei chyflymu a dod i gasgliad, oherwydd os gallwn wneud hynny, yna mae’r pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud am driniaeth ar y cychwyn—rydym ni’n fwy tebygol o ddarparu gwell triniaeth ar draws y wlad os gwnawn ni hynny, ac os oes gennym ni wedi ei gytuno ar gyfer y dyfodol hefyd.
Felly, mae hyn yn wirioneddol bwysig, oherwydd os gwnawn ni hynny, rydym ni’n fwy tebygol o achub mwy o fywydau ac atal anabledd hirdymor y gellir ei osgoi hefyd. Felly, ceir pris gwirioneddol i’w dalu o beidio â gwneud hyn, yn ogystal â budd go iawn os gallwn ei wneud. O ran eich pwynt—roedd nifer o bwyntiau a wnaethoch ynglŷn ag adsefydlu ac, os mynnwch, llesiant cyffredinol rhywun, nid ei lesiant corfforol yn unig. Rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud oherwydd, wrth gwrs, dyna pam yr wyf yn credu bod y mesurau PROM a PREM yn bwysig. Felly, i’r unigolyn hwnnw, yr hyn sy'n bwysig iddo fe, os mynnwch, o ran ei ganlyniadau clinigol, ond yr hyn sy'n bwysig iddo o ran ei brofiad, a’r hyn sy’n bwysig iddo. I rai pobl, efallai y byddan nhw eisiau derbyn adsefydliad fel y gallant gerdded i waelod eu stryd neu gerdded i gaffi lleol neu gerdded i ganolfan gymdeithasol leol. Ac nid yr elfen gorfforol o adsefydlu yn unig yw hynny a gallu gwneud hynny; mae'n golygu gallu cael y rhyngweithio cymdeithasol ehangach hwnnw hefyd, a'r pwyntiau ynghylch eu llesiant cyffredinol. O ran pob un o'r rhain, ceir perygl ein bod ni’n gweld y cyflwr yn unig, yn hytrach na’r unigolyn cyfan a’r hyn sy’n ei wneud yn rhywun sydd â bywyd y mae’n mwynhau ei fyw. Ac o ran eich pwynt ehangach am y tîm sydd i fod i ddarparu'r gofal hwn, dyna un o'r pwyntiau yr oeddwn i’n ceisio eu gwneud. Sicrhau bod y bobl gywir ar gael i ddarparu’r adsefydliad gwell hwnnw: mae hynny'n rhan o'r rheswm pam y cyhoeddais yn yr wythnosau diwethaf y buddsoddiad o £95 miliwn hwnnw yn nyfodol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ein bod ni’n gwybod y bydd angen mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arnom i ddarparu ansawdd y gofal y byddai pob un ohonom ni’n dymuno ei weld.
Roeddwn i’n ddiolchgar i chi am godi’r materion yn eich etholaeth eich hun—nifer y bobl sydd wedi goroesi strôc, nifer y bobl sydd eisoes yn byw â ffactorau risg cynyddol eisoes, ond hefyd y ffigurau arbennig o drawiadol o bobl sy'n byw gyda phwysedd gwaed uwch a'r perygl ychwanegol sylweddol y maen nhw’n ei wynebu o nifer o gyflyrau. Mae hynny'n rhywbeth sy'n arbennig o bersonol i mi o ystyried fy hanes teuluol fy hun, oherwydd rwy’n deall beth all hynny ei olygu mewn gwirionedd a'r amrywiaeth o risgiau sy'n bodoli hefyd. Dyna pam y gwnes i’r pwynt, yn gwbl ddiedifar, a pham y bydd angen i ni gyd ddychwelyd at hyn dro ar ôl tro, fel y gwnaethoch chithau hefyd—. Mewn gwirionedd—mae'n ymwneud â gwneud dewisiadau iachach a lleihau’r perygl a geir trwy hynny, ac, mewn gwirionedd, yr hyn y mae hynny’n ei olygu wedyn o ran pobl nid yn unig yn byw bywydau hwy ond yn byw bywydau hwy ac iachach. Nid ydym wedi bod yn ddigon llwyddiannus fel gwlad o ran cael y drafodaeth honno ac o ran newid agweddau at y dewisiadau y mae pob un ohonom ni’n eu gwneud ac yr ydym ni’n eu gweld yn cael eu gwneud ym mhob un o'n cymunedau.
Mae'r trydydd sector yn rhan bwysig o hynny hefyd. Rwy'n falch o ddweud, pan edrychwch chi ar y dewis bwriadol yr ydym ni wedi ei wneud o ran sut i lunio ein grwpiau gweithredu, bod y trydydd sector yn bartner pwysig o fewn hynny, oherwydd yr arbenigedd y mae’n ei gynnig, naill ai trwy weithredu fel hyrwyddwyr yn y gwasanaeth neu ar gyfer cleifion, ac mae llawer ohonynt yn ddarparwyr gwasanaethau hefyd. Felly, maen nhw’n rhan o’r bensaernïaeth yr ydym ni wedi ei chynllunio’n fwriadol, ac yn sicr nid oes unrhyw fwriad nac unrhyw awydd gan y Llywodraeth hon i roi terfyn ar ei swyddogaeth o ran helpu i ddarparu’r gwasanaethau iechyd a gofal hynny. Yr her bob amser fydd sut yr ydym ni’n defnyddio ein hadnoddau prin, ac, yn anffodus, nid wyf yn disgwyl newyddion da yfory o ran y ffordd y caiff cyllid ei ddosbarthu o gwmpas y Deyrnas Unedig. Yr hyn na allwn ei ddweud wrthych chi nac unrhyw un arall yn y sector statudol na'r trydydd sector yw y bydd swm sylweddol annisgwyl o arian yn dod i’r gwasanaethau hyn—ni waeth pa mor bwysig ydynt, bydd gan bob un ohonom ni ddewisiadau anodd dros ben i'w gwneud ynglŷn â lle bydd yr arian hwnnw’n cael ei ddyrannu a’i flaenoriaethu a'i ddefnyddio er mwyn sicrhau’r effaith orau posibl i bob un o'n dinasyddion.
Ac yn olaf, gan ymdrin â'ch pwynt ar anghydraddoldebau—rydym ni wedi ystyried hyn o ddifrif o ran sut yr ydym ni’n deall risg. Dyna pam mae’r rhaglen Byw’n Hirach, Byw’n Well yn Aneurin Bevan, a’r rhaglen debyg yng Nghwm Taf yn cael eu cyflwyno, gan ein bod ni'n cyrraedd pobl nad ydynt yn rhyngweithio â'r gwasanaeth iechyd, ond sydd mewn perygl cynyddol sylweddol. Oherwydd sy’n cydnabod ein bod ni’n gweld lefel lawer rhy uchel o anghydraddoldeb mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol o hyd, ac nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn credu sy’n dderbyniol.