Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 7 Mawrth 2017.
A gaf i ddweud fy mod yn hapus iawn o’r cyfle i siarad yn y ddadl hon fel rhan o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod? Mae’n ddathliad yr wyf yn wirionedd eisiau ei wneud. Heddiw, rydym wedi clywed, a byddwn yn clywed, am nifer o fenywod ysbrydoledig—yr enwog a'r nad ydynt mor enwog—bob un ohonynt wedi gwneud eu marc, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd. Yn fy nghyfraniad i, rwyf yn awyddus i grybwyll rhai ohonynt.
Yn y byd chwaraeon, yr enghraifft ddisglair o Tanni Grey-Thompson, a wnaeth fwy nag unrhyw un arall fwy na thebyg i hyrwyddo achos chwaraeon anabl yn y wlad hon. Yn ystod ei gyrfa, enillodd gyfanswm o 16 o fedalau Paralympaidd, gan gynnwys 11 aur, roedd yn dal dros 30 o recordiau byd ac enillodd ras marathon Llundain chwe gwaith. Yn ddiweddarach daeth yn gyflwynydd teledu ac mae bellach yn aelod gweithgar o Dŷ'r Arglwyddi.
Ym myd gwleidyddiaeth, roedd yn rhaid i fenywod ymladd am yr hawl i bleidleisio. Swffragét flaenllaw o Gymru oedd Margaret Haig Mackworth, a ffrwydrodd flwch postio yn Heol Rhisga, Casnewydd i ddangos pa mor gryf yr oedd hi'n teimlo am bleidlais i ferched. Etholiad 1929, wrth gwrs, oedd y cyntaf lle’r oedd pob menyw dros 21 oed yn gallu pleidleisio. Nid yn unig gallai merched nawr bleidleisio, ond gallent hefyd sefyll i gael eu hethol i'r Senedd, ac allan o'r tri oedd yn sefyll yng Nghymru, yr un a lwyddodd i gael ei hethol, wrth gwrs, oedd Megan Lloyd George, merch y cyn Brif Weinidog, David . Fe'i hetholwyd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Fôn, gan weld y goleuni yn ddiweddarach, wrth gwrs, a dod yn AS Llafur dros Gaerfyrddin. Wrth gwrs, ni ddylem anghofio Julia Gillard, cyn Brif Weinidog Awstralia a aned yn y Barri, a ddaeth yn ôl i Gymru i annerch y Cynulliad yn 2015. Roedd y digwyddiad mor boblogaidd fel y bu’n rhaid ei symud o'r Pierhead i’r Senedd ac fe’i darlledwyd ar senedd.tv ar gyfer y rhai nad oeddent yn gallu cael tocynnau.
Ym myd diwydiant, nid yw'n syndod, o ystyried treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Merthyr Tudful, bod arloeswyr benywaidd ym myd diwydiant yn hannu o'r dref. Un oedd yr Arglwyddes Charlotte Guest, gwraig John Josiah Guest, perchennog y gwaith haearn mwyaf yn y byd yn Nowlais, ac Aelod Seneddol cyntaf Merthyr. Pan fu farw ym 1852, cymerodd Charlotte reolaeth dros y busnes, ac er ei bod yn cael ei chofio orau am ei gofal dyngarol dros weithwyr yn yr ardal, parhaodd i redeg y gwaith nes iddi ailbriodi ym 1855. Un arall oedd Lucy Thomas, a elwir yn fam y diwydiant glo, a gymerodd drosodd y gwaith o redeg busnes ei gŵr pan fu yntau farw ym 1833, gan adael iddi ystad a oedd yn werth llai na £1,000. Roedd wedi darganfod gwythïen lo gyfoethog ym Merthyr, a daeth yn un o'r mwyngloddiau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Erbyn adeg ei marwolaeth hi ym 1847, roedd gwerth y busnes hwnnw wedi cynyddu i dros £11,000. Ac yn fwy diweddar, roedd y cynllunydd ffasiwn Laura Ashley, a aned mewn tŷ teras dinod yn Nowlais ym Merthyr Tudful, ac a aeth ymlaen i fod yn un o ddylunwyr a gwneuthurwyr dillad a dodrefn mwyaf blaenllaw'r byd.
Mae cymaint o fenywod ysbrydoledig eraill o Gymru y gallwn siarad amdanynt, ond nid yw hyn yn ymwneud ag unigolion yn unig. Yn yr amser sydd gennyf ar ôl, rwyf hefyd am dalu teyrnged i fenywod sydd wedi ymddwyn ar y cyd yn eu hundebau llafur, gan wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint. Mae’r hanes am ferched yn gweithredu ar y cyd yn un balch: o streic y merched matsis ym 1888, a arweiniodd at wahardd matsis ffosfforws gwyn peryglus a gwelliannau yn eu hamodau gwaith, at streic gyffredinol 1926, pan ymladdodd menywod am y tro cyntaf i amddiffyn hawl dynion i gyflog teg. Ym 1934, pan gymerodd y Llywodraeth gamau yn erbyn y gost gynyddol o dalu’r dôl a budd-daliadau i'r di-waith—a yw hynny’n swnio’n gyfarwydd—gadawodd gorymdaith newyn Donypandy ac ymhlith y cannoedd o lowyr roedd dwsin o fenywod yn gwisgo sachau teithio a berets coch. Roeddent wedi eu hyfforddi mewn siarad cyhoeddus fel y gallent annerch cyfarfodydd mewn mannau aros dros nos ar y ffordd i Gaerdydd. Wrth gwrs, yn ystod streic y glowyr 1984, protestiodd menywod ochr yn ochr â'u gwŷr, eu tadau a’u brodyr i wrthwynebu cau 28 o byllau yn ne Cymru. Yn ogystal â phrotestio am golli swyddi, roeddent yn ymladd i amddiffyn eu cymunedau. Ymunodd menywod â llinellau piced, roeddent yn gorymdeithio mewn ralïau ac roeddent yn darparu parseli bwyd. Fe wnaeth Menywod yn Erbyn Cau Pyllau wleidyddoli menywod mewn ffordd nas gwelwyd erioed o'r blaen yn y cymunedau glofaol hyn, ac aeth un ohonynt, Siân James, ymlaen i fod yn AS Llafur dros Ddwyrain Abertawe.
Mae menywod mewn undebau llafur wedi ymgyrchu yn ddiflino ar faterion sy'n effeithio arnynt yn anghymesur, gan fynd ar drywydd hawliadau cyflog cyfartal, hawliau cyfartal i weithwyr rhan-amser, cyfnod penodol, asiantaeth a’r rhai ar gyflog isel, ac, fel y dadleuwyd yr wythnos diwethaf, ymladd yn erbyn ecsbloetio contractau dim oriau, sydd hefyd yn effeithio ar fenywod yn fwy na dynion, ac wrth gwrs ymgyrchu dros gydraddoldeb a gofal plant fforddiadwy, y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Lywydd, rwy’n teimlo yn hynod freintiedig o fod wedi cael fy ethol i Gynulliad Cymru, ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar i’r menywod a aeth o fy mlaen i ac arloesi mewn gwleidyddiaeth ac yn y mudiad undebau llafur, gan ei gwneud yn bosibl i mi a menywod eraill fel fi fod yma heddiw. Ein cyfrifoldeb ni yn awr yw paratoi'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fenywod a fydd yn gwneud eu marc ym mywyd Cymru.