<p>Targedau Ailgylchu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:30, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn gwneud cynnydd rhagorol yn erbyn ein targedau ailgylchu. Dengys y ffigurau ailgylchu diweddaraf gynnydd o 62 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at fis Medi 2016, 4 y cant yn uwch na’r 12 mis blaenorol hyd at fis Medi 2015. Rydym ar y brig yn y DU, rydym wedi codi i’r ail safle yn Ewrop, ac mae hynny’n dyst i ymrwymiad cynghorau a thrigolion ledled Cymru.