<p>Targedau Ailgylchu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:30, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y wybodaeth honno, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae hynny ynddo’i hun yn berfformiad da. Y broblem yw bod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yn aml yn codi wrth i gynghorau anelu at gyrraedd targedau ailgylchu. Yn y ddwy flynedd hyd at 2016, bu cynnydd o 10 y cant mewn tipio anghyfreithlon yng Nghonwy, 22 y cant yng Ngwynedd, ac yn Sir Benfro, bu cynnydd enfawr o 47 y cant. Yng ngoleuni’r ffigurau hyn, a yw’n bryd i’ch adran adolygu ei thargedau ailgylchu?