<p>Targedau Ailgylchu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:31, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n adolygu ein targedau ailgylchu, ond rwyf ond yn gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn fwy uchelgeisiol hyd yn oed. Credaf fod angen i chi fod yn ofalus iawn wrth ddehongli’r cynnydd yn ffigurau 2015-16 mewn perthynas â thipio anghyfreithlon. Mae’n anodd dal y troseddwyr, ond rwyf am eu gweld yn cael eu herlyn pan fo’n digwydd. Ond, wyddoch chi, roedd nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol, ac yna, fel y dywedwch, bu cynnydd yn 2015-16. Ond credaf fod yr awdurdodau lleol wedi gwneud nifer o newidiadau, ac mae’n bwysig iawn fod y cyhoedd yn dod gyda ni ar hyn. Ond credaf fod y cynnydd a welsom, o ran cyrraedd ein targedau, yn dangos bod y cyhoedd gyda ni ar hyn.