Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, cyrhaeddodd 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru y targed. Nid Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd oedd dau o’r tri na lwyddodd i wneud hynny. O ran y tri awdurdod lleol na lwyddodd i gyrraedd y targedau, rwyf bellach wedi cael cyfle i gyfarfod â hwy i weld pam na lwyddwyd i gyrraedd y targedau. A byddaf yn parhau i weithio gyda hwy, a bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda hwy er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y targedau hynny y flwyddyn nesaf.
Fe sonioch am ambell fenter yr ydym yn eu hystyried. Credaf y dylem ystyried y cynllun dychwelyd blaendal. Ond er mwyn iddo wneud cymaint o les â phosibl, credaf fod angen ei roi ar waith, nid ledled Cymru’n unig—credaf y byddai’n rhaid i ni weithio’n agos iawn gyda Lloegr, a gwn fod yr Alban yn ei ystyried hefyd.