<p>Targedau Ailgylchu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 1:33, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, ni allwn dynnu’n troed oddi ar y pedal mewn perthynas â hyn. Mae’n rhaid i ni dargedu tipio anghyfreithlon yn ogystal â thargedau ailgylchu. Nid oes y fath beth â chael gwared ar wastraff—mae angen trin pob gwastraff mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Felly, ceir costau yn hynny o beth. Ac yng Nghaerdydd, maent wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, ac rwy’n falch iawn o hynny. Ac mae angen inni barhau, oherwydd bydd y safle tirlenwi ar Ffordd Lamby yn cau y flwyddyn nesaf gan ei fod yn llawn, a golyga hynny y bydd unrhyw warediadau tirlenwi pellach yn costio £80 y dunnell. Ac felly, dylai fod pwyslais ar sicrhau bod y cyhoedd yn ailgylchu’r hyn y mae angen iddynt ei ailgylchu, yn hytrach na’i roi yn y biniau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. A wnewch chi ymuno â mi i gefnogi’r cysyniad hwn, nad oes y fath beth â chael gwared ar wastraff, a bod angen i ni fynd i’r afael â phob safle diwydiannol sy’n cynhyrchu gwastraff na ellir ei ailgylchu er mwyn eu perswadio i newid, fel y gallwn bob amser ailddefnyddio ac ailgylchu?