<p>Targedau Ailgylchu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:34, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, a chytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ganol Caerdydd. Rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion fy mod yn awyddus i’n gwlad fod ar y blaen, nid yn unig yn Ewrop, ond drwy’r byd. Ac rwy’n credu o ddifrif y gallwn gyflawni hynny. Credaf fod sicrhau ein bod ar y blaen drwy’r byd yn darged realistig iawn. Felly yn sicr, ni fyddwn yn tynnu ein troed oddi ar y targed. Mae angen i ni edrych ar ffyrdd o annog pobl nad ydynt yn ailgylchu ar hyn o bryd i wneud hynny. Credaf fod swyddogion ac awdurdodau lleol yn cydnabod y bydd bob amser grŵp o bobl sy’n anodd iawn eu perswadio, ond nid yw hynny’n golygu na ddylem geisio eu perswadio.