Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 8 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg fod pren yn elfen bwysig yma, ac rydym wedi gweld cynaeafu pren yn newid yn fy ardal yn sgil y clefydau yn ardal y cwm. Felly, mae ailblannu’n bwysig, er mwyn edrych, fel y dywed Simon Thomas, nid yn unig ar natur y tir, ond hefyd efallai ar y cyfleoedd i fusnesau eraill y tu hwnt i’r diwydiant gweithgynhyrchu, megis ardaloedd twristiaeth. Pa gynnydd a wnaed ar ailblannu yng Nghwm Afan er mwyn sicrhau y gallwn gael hynny’n ôl i’r hyn yr arferai fod?