Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd Cabinet, rydym ni wedi cael ein hatgoffa eto ddoe, o’r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynglŷn â’r ffaith bod llygredd awyr yn argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru, gan achosi rhywbeth fel 2,000 o farwolaethau y flwyddyn. Mae 6 y cant o’r holl farwolaethau sy’n digwydd yng Nghymru yn dilyn yn sgil llygredd awyr, ac yn ail yn unig felly fel achos marwolaeth i ysmygu. Beth felly mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr hyn rydym ni’n ei wneud ar gyfer ansawdd awyr yn cael ei gadw wrth i ni fynd o’r Undeb Ewropeaidd a cholli, ar hyn o bryd, rai o’r rheoliadau hynod bwysig yn y cyd-destun yma?