Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch. Mae’n amlwg i mi fod angen ymdrech gydunol arnom ar draws pob sector er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Mae arnom angen atebion radical ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fod hyn yn un o fy mhrif flaenoriaethau yn fy mhortffolio.
Fe fyddwch yn gwybod ein bod newydd gael ymgynghoriad diweddar ar ansawdd aer lleol, a byddaf yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig cyn diwedd y mis hwn ar yr ymatebion a gawsom. Drwy adael yr UE, os rhywbeth, credaf y byddwn yn cynyddu ein targedau. Credaf fod ansawdd aer, fel y dywedwch, yn effeithio ar gymaint o agweddau ar ein bywyd, gan gynnwys ein lles a’n hiechyd. Ond fel y dywedais, credaf fod angen i ni sicrhau ymdrech gydunol yn y maes hwn.