Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch am yr ateb, ac rwy’n falch o glywed eich bod chi’n rhoi hyn ar ben y rhestr o flaenoriaethau sydd gennych chi, achos nid oes dim byd mwy amlwg yn eich portffolio chi sydd hefyd yn effeithio ar fywyd bob dydd nifer fawr ohonom sydd yn byw mewn ardaloedd lle mae llygredd awyr yn wael. Rydych chi’n sôn bod angen i hyn gael ei wneud ar draws Llywodraeth. Mae Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) ar hyn o bryd yn cael ei ystyried gan y Cynulliad. Ar hyn o bryd, nid yw’r Bil hwnnw’n cynnwys unrhyw gyfeiriad at lygredd awyr neu fynd i’r afael â llygredd awyr fel mater o iechyd cyhoeddus. Er nad chi yw’r Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am y Bil, beth ydych chi’n ei wneud wrth drafod gyda’ch cyd-Ysgrifenyddion Cabinet i sicrhau bod y Bil yma’n eich helpu chi i fynd i’r afael â llygredd awyr yng Nghymru?