Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, soniais yn fy ateb blaenorol i arweinydd y Ceidwadwyr fod yn rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, ac mae’r trafodaethau hynny’n barhaus, mewn gwirionedd. Ond pan fyddaf yn ystyried addasu’r ddeddfwriaeth, credaf y bydd hwnnw’n gyfle arall i gael y drafodaeth honno gyda thirfeddianwyr. Ond yn sicr, byddwn yn dweud ei fod yn fater sy’n codi yn y rhan fwyaf o fy nghyfarfodydd gyda’r sector amaethyddiaeth. Yn enwedig pan fyddaf yn ymweld â ffermydd, mae’n fater y maent yn ei ddwyn i fy sylw.